Heddlu'n enwi dynes fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Xana Doyle
Mae dynes fu farw yn dilyn gwrthdawiad yng Nghasnewydd ddydd Gwener wedi cael ei henwi gan yr heddlu.
Roedd Xana Doyle yn 19 oed ac yn byw yn y ddinas. Mae dau ddyn, 20 oed a 21 oed, wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Aed â merch 15 oed o ardal Casnewydd i'r ysbyty gydag anafiadau i'w breichiau.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 07:07 fore Gwener. Roedd pedwar unigolyn yn teithio yn y car Toyota Avensis ar y pryd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yng Nghasnewydd fore Gwener