Cynllun Cylchffordd Cymru Glyn Ebwy'n 'risg enfawr'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidogion yn cael eu hannog i beidio ag ymrwymo mwy o arian cyhoeddus i gynlluniau ar gyfer trac rasio gwerth £315 miliwn yng Nglyn Ebwy.
Yn ôl yr AC Ceidwadol Antoinette Sandbach, mae'r cynlluniau ar gyfer Cylchffordd Cymru'n golygu "risg enfawr" allai achosi difrod amgylcheddol sylweddol.
Ddydd Mercher, bydd hi'n arwain trafodaeth yn y cynulliad ar y cynlluniau, gafodd eu disgrifio fel "cyfle unwaith mewn canrif" gan ei chyd aelod Ceidwadol William Graham fis diwetha'.
Bydd y cynlluniau'n destun ymchwiliad cyhoeddus ym mis Mawrth.
Bydd yr ymchwiliad yn cychwyn 10 Mawrth yn Swyddfeydd Cyngor Sir Blaenau Gwent, gan bara wyth diwrnod.
Cyllid preifat
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu grant o £2 miliwn tuag at ddatblygu'r cynllun, sy'n addo creu miloedd o swyddi a denu 750,000 o ymwelwyr pob blwyddyn.
Dywed gweinidogion bod unrhyw gefnogaeth bellach yn ddibynnol ar sicrhau cyllid preifat.
Mae'r datblygwyr wedi ennill yr hawl i hyrwyddo'r ras MotoGP am bum mlynedd ond maen nhw'n cyfadde' na fydd y trac yn barod i lwyfannu'r digwyddiad yn 2015.
Mae Ms Sandbach, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr amgylchedd, yn honni na fyddai'r prosiect wedi'i gwblhau erbyn y ras yn 2016 chwaith.
Roedd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, sy'n gyfrifol am y cynllun i adeiladu'r trac, wedi gobeithio dechrau ar y gwaith adeiladu fis Chwefror y llynedd, ond mae'n debyg bod angen dod i benderfyniad ar sawl agwedd o'r cais cynllunio cyn y gall y gwaith hwnnw fynd rhagddo.
Ddydd Mawrth, dywedodd prif weithredwr Cylchffordd Cymru Michael Carrick fod y prosiect yn "hynod o bwysig" ar gyfer adfywio Blaenau Gwent ac economi'r DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd2 Medi 2014
- Cyhoeddwyd13 Awst 2014
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2014