Disgyblion yn gofidio fwyaf am ddarllen yn uchel

  • Cyhoeddwyd
DisgyblionFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Datgelodd y pôl y byddai 32% o ddisgyblion yn codi llaw bob amser i ateb cwestiwn mathemateg

Darllen yn uchel yn y dosbarth yw'r gofid pennaf i blant 7-13 oed ledled Cymru yn ôl pôl piniwn newydd a wnaed ar ran ymgyrch Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref.

Datgelodd y pôl fod 37% o blant a holwyd yn gofidio fwyaf am orfod darllen ar lafar yn y dosbarth, a'u bod yn poeni am hynny'n bennaf oherwydd bod arnyn nhw ofn y bydd plant eraill yn chwerthin am eu pennau.

Roedd yn well gan 45% o blant a holwyd ddarllen ar eu pennau eu hunain yn y dosbarth.

Ond pan holwyd y disgyblion am agweddau at rifau, atebodd hanner y plant eu bod yn hoffi gwneud gwaith mathemateg yn y dosbarth, a byddai 32% yn codi llaw bob amser i ateb cwestiwn wrth astudio'r pwnc.

Hyder

Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC: "Pwrpas ein hymgyrch, Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref, yw atgoffa pobl ledled Cymru o bwysigrwydd rhieni a nain a thaid wrth helpu plant wneud yn well yn yr ysgol.

"Rydyn ni'n mynd a'r neges hon allan i'r wlad drwy gyfrwng cyfres o ddigwyddiadau cymunedol lleol, sy'n lansio'r wythnos hon, er mwyn cynnig cynghorion defnyddiol ar sut y gall teuluoedd ddysgu gyda'i gilydd mewn modd sy'n gyflym, yn hawdd ac, yn fwyaf pwysig, yn hwyl."

Cynhaliwyd y pôl wrth i'r ymgyrch gyhoeddi cyfres o ddigwyddiadau cymunedol ar draws y wlad i ddangos i rieni sut y gallan nhw helpu eu plant i wneud yn well yn yr ysgol.

Dywedodd Dan Johnson, cynorthwyydd dysgu yn Ysgol Gynradd Millbrook Casnewydd: "Mae materion yn ymwneud â hyder ynghylch darllen ar lafar yn y dosbarth yn rhywbeth y byddwn ni'n ei weld yn aml.

"Bydd unrhyw ymgyrch sy'n helpu rhieni i gymryd mwy o ran wrth ymarfer darllen a rhifau gyda'u plant gartref yn cael croeso gennym ni.

"Gan fy mod innau'n rhiant fy hunan, rydw i wedi gweld drosof fy hun y gwahaniaeth mae cynnwys y teulu cyfan mewn dysgu gyda'n gilydd yn gallu'i wneud."