Gŵyl Calan Gaeaf Caerdydd yn 'amatur' a 'hynod siomedig'

Dywedodd y trefnwyr bod tywydd gwael wedi effeithio ar y paratoadau
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd wedi sôn am eu siom ar ôl mynychu atyniad Calan Gaeaf ym Mae Caerdydd.
Mae'r Ŵyl Calan Gaeaf yn cael ei chynnal nes 31 Hydref ac mae tocyn teulu i ddau oedolyn a dau blentyn yn costio £53.50 a £6 o dâl bwcio ychwanegol.
Ond mae rhai sydd wedi ymweld â'r digwyddiad yn ystod y penwythnos wedi ei ddisgrifio fel rhywbeth "eithaf amatur" ac yn ei gymharu ag atyniad Willy Wonka yn Yr Alban a aeth yn feiral y llynedd am fod mor siomedig.
Fe wnaeth trefnwyr yr ŵyl gyhoeddi datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymddiheuro i'r rheiny "a oedd yn siomedig", gan ddweud bod tywydd difrifol yn y 24 awr cyn agor wedi golygu bod rhai ardaloedd "ddim yn barod".
'Diffyg atmosffer'
Fe wnaeth atyniad Willy Wonka yn Yr Alban fynd yn feiral ar y cyfryngau cymdeithasol y llynedd ar ôl i deuluoedd dalu £35 am docyn ar gyfer y digwyddiad a oedd yn cael ei ddisgrifio fel un gwael iawn gan ymwelwyr.
Yn ôl gwefan Gŵyl Calan Gaeaf Caerdydd, mae tocyn dydd yn rhoi mynediad i "holl anturiaethau'r ynys Calan Gaeaf - o lwybrau trick-or-treat a sioeau chwareus i fannau tynnu lluniau llawn pwmpenni, gemau, a mwy".
Ond mae rhai teuluoedd wedi dweud wrth y BBC eu bod wedi eu siomi ar ôl iddyn nhw fynychu'r digwyddiad yn Alexandra Head.

Mae gwefan yr ŵyl yn addo "anturiaethau di-ri"
Dywed Brych Rees o ardal Merthyr Tudful, sydd wedi bod i'r digwyddiad o'r blaen mewn lleoliad gwahanol, fod y profiad eleni yn "hynod siomedig".
Fe wnaeth Mr Rees, 35, ei bartner a dau ffrind dalu tua £60 i gael mynediad, ac fe ddisgrifiodd yr addurniadau yn "hynod o wael" gyda "diffyg atmosffer".
Dywedodd iddo wrthod talu £10 yn ychwanegol i gael mynediad at "ddrysfa (maze) salw lle fyddai'r profiad wedi dod i ben o fewn 30 eiliad".
Dywedodd fod ei grŵp wedi derbyn 30% o ad-daliad.

Dywedodd Kirstie Bevan bod y digwyddiad "mor siomedig"
Dywed Kirstie Bevan o Gastell-nedd ei bod hi a'i gŵr Lee wedi talu bron i £70 i gael mynediad i'r ŵyl gyda'u plant ddydd Sadwrn.
Roedd yn rhaid iddyn nhw giwio am bron i awr i gael "llong ysbryd" i'r ŵyl, sef tacsi dŵr Bae Caerdydd gydag ychydig o addurniadau arno, meddai.
"Roedd yn fy atgoffa o'r profiad Willy Wonka yn Yr Alban," meddai Mrs Bevan.
Tra bod y bwyd yn "neis iawn" a'u bod wedi mwynhau gwylio sioe dân a'r Three Salem Sisters, dywedodd fod popeth arall "mor siomedig".
Fe wnaeth Kayleigh Evans o Gaerdydd ymweld â'r digwyddiad gyda'i phartner Lee a'u dau o blant ddydd Sul.
Dywedodd ei bod wedi mwynhau mynychu'r digwyddiad yn y gorffennol ond bod eleni yn "eithaf amatur".
"Pan gyrhaeddon ni, roedd e'n siomedig. Gwnes i edrych ar y mini golff a meddwl, dwi ddim yn talu £5 y person i wneud hwnna," meddai.
'Gweithio'n ddiflino'
Dywedodd llefarydd ar ran Gŵyl Calan Gaeaf Caerdydd: "Mae'n ddrwg iawn gennym nad oedd rhai o'n hymwelwyr wedi profi'r hyn yr oeddem am iddyn nhw wneud yn ystod y cyfnod agoriadol.
"Fe wnaeth tywydd garw 24 awr cyn yr agoriad olygu bod nifer o'n hardaloedd yn dal i gael eu gorffen ddydd Sadwrn, a arweiniodd at siom yn amlwg."
Dywedon nhw eu bod wedi "gweithio'n ddiflino" i roi'r "profiad y mae pobl yn ei ddisgwyl gennym ni", gan ddweud mai diogelwch teuluoedd "yw ein prif flaenoriaeth o hyd".