Arestio unigolyn wedi honiad o hiliaeth mewn gêm bêl-droed ym Môn

Cefnogwyr CPD Llangefni
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr CPD Llangefni yn gwylio gêm yng Nghae Bob Parry ar Lôn Talwrn y tymor diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae person ifanc wedi cael ei arestio yn dilyn digwyddiad hiliol honedig yn ystod gêm bêl-droed ar Ynys Môn.

Fe ddigwyddodd yn ystod gêm rhwng Tref Llangefni a Bae Trearddur nos Wener, 24 Hydref.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi derbyn adroddiad bod person oedd yn gwylio'r gêm yn Llangefni wedi gweiddi "sarhad hiliol" tuag at chwaraewr.

Cafodd unigolyn ifanc ei arestio. Mae bellach wedi'i ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau'n parhau, meddai'r llu.

Dywedodd Clwb Pêl-droed Tref Llangefni eu bod yn "drist iawn ac wedi synnu'n fawr" wedi'r digwyddiad.

'Cael eu trin o ddifrif'

Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis o'r heddlu: "Ni fyddwn yn goddef hiliaeth mewn unrhyw ffurf yn unrhyw le yn ein cymunedau ni – oddi mewn neu du allan i chwaraeon.

"Cymerodd swyddogion gamau cyflym yn dilyn riportio'r digwyddiad er mwyn adnabod y rhai a oedd yn gysylltiedig.

"Buaswn i'n hoffi diolch i'r ddau glwb pêl-droed am eu cefnogaeth barhaus.

"Fe wnawn ni barhau gweithio'n agos hefo partneriaid ac aelodau o'r gymuned er mwyn gwneud yn siŵr fod digwyddiadau fel hyn yn cael eu trin o ddifrif ac yn gadarn."

'Ymddiheuriadau diffuant i'r chwaraewr'

Dywedodd Clwb Pêl-droed Tref Llangefni mewn datganiad: "Nid oes lle o gwbl i hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath yn ein clwb, ym mhêl-droed, nac yn ein cymuned.

"Rydym yn estyn ein hymddiheuriadau diffuant i'r chwaraewr a effeithiwyd ac i Glwb Pêl-droed Bae Trearddur am yr ymddygiad annerbyniol hwn.

"Nid yw Clwb Pêl-droed Tref Llangefni yn derbyn hiliaeth o unrhyw fath.

"Mae Clwb Pêl-droed Tref Llangefni yn sefyll yn gadarn dros barch, cydraddoldeb a chynnwys - ar ac oddi ar y cae."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.