Howard Marks â chanser nad yw hi'n bosib ei drin
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Howard Marks, dreuliodd saith mlynedd yn y carchar am smyglo cyffuriau wedi cadarnhau bod ganddo ganser nad yw hi'n bosib ei drin.
Dywedodd yr awdur 69 oed sy'n wreiddiol o Fynydd Cynffig ger Penybont, nad oedd o'n difaru'r hyn wnaeth o yn ystod ei fywyd.
Mi gadarnhaodd o wrth bapur newydd 'The Observer' bod ganddo ganser y coluddyn nad yw hi'n bosib ei drin.
"Rydw i wedi dod i delerau gyda fe yn fy ffordd fy hun - i fi roedd e am ddysgu sut i lefain.
"Mae'n amhosibl i mi fod yn edifar am unrhyw ran o'm mywyd pan rwy'n teimlo'n hapus ac rwy'n hapus nawr".
Mr Nice
Ar un adeg roedd o'n cael ei gydnabod fel un o'r smyglwyr cyffuriau mwyaf soffistigedig erioed.
Ysgrifennodd lyfr llwyddiannus, 'Mr Nice', am ei brofiadau a chafodd ffilm o'r un enw ei dangos yn y sinemâu.
Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Rhydychen bu'n gweithio i'r Gwasanaeth Cudd Prydeinig cyn cael ei ddenu i'r byd cyffuriau.
Cafodd ei ddal yn 1988 gan yr awdurdodau yn America a chafodd ei ddedfrydu i 25 mlynedd dan glo yng ngharchar Terre Haute yn Indiana.
Ers iddo gael ei ryddhau ar barôl yn 1995 mae o wedi ymgyrchu yn ddiflino i gyfreithloni canabis.