Llys: Dyletswydd gofal ar Dŷ'r Cwmnïau
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi penderfynu bod dyletswydd gofal ar Dŷ'r Cwmnïau i sicrhau bod y manylion cywir yn cael eu nodi pan mae cwmni'n cael ei ddirwyn i ben.
Cafodd yr achos ei gyflwyno gan gwmni o dde Cymru, Taylor a'i Feibion, wedi i Dŷ'r Cwmnïau gofnodi ei fod yn cael ei ddirwyn i ben yn 2009.
Mewn gwirionedd cwmni gydag enw tebyg, Taylor a'i Fab, oedd mewn trafferthion ariannol.
Yn ei ddyfarniad dywedodd Mr Ustus Edis fod gan dyletswydd ar Dŷ'r Cwmnïau i gymryd gofal rhesymol i sicrhau nad ydi gorchymyn dirwyn i ben yn cael ei gofnodi yn erbyn y cwmni anghywir.
Dim ond dyfarniad neilltuedig ydi hwn ac mae disgwyl i'r achos fynd i wrandawiad llawn.
Dywedodd llefarydd ar ran Tŷ'r Cwmnïau: "Rydym ni newydd dderbyn y dyfarniad ac ystyried yr oblygiadau."