Yr Athro Sally Holland yw Comisynydd Plant newydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai'r Athro Sally Holland yw Comisiynydd Plant newydd Cymru.
Mae'r comisiynydd presennol Keith Towler yn rhoi'r gorau iddi ar 28 Chwefror 2015, a hynny ar ôl saith mlynedd yn y swydd.
Wrth gyhoeddi'r penodiad ddydd Mercher, dywedodd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi fod y Prif Weinidog wedi derbyn argymhelliad y Panel yn dilyn y broses ddethol ac wedi penodi'r Athro Sally Holland PhD QCS yn Gomisiynydd Plant nesaf Cymru.
"Hoffwn ddiolch i Keith Towler eto am ei ymrwymiad a'i lwyddiannau yn ystod ei gyfnod o 7 mlynedd fel Comisiynydd, ac rwy'n dymuno'n dda iddo, beth bynnag y bydd yn ei gyflawni yn y dyfodol."
Cefndir yr Athro Holland
Yn wreiddiol o gefndir gwaith cymdeithasol, mae'r Athro Holland yn gweithio ar hyn o bryd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yn darlithio ym maes gwaith cymdeithasol ac astudiaethau plentyndod ar lefel is-raddedig, Meistr a Doethuriaeth.
Yr Athro Holland yw Cyfarwyddwr a sylfaenydd CASCADE (Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol Plant). Mae'r Ganolfan, sy'n cynnwys CASCADE Voices, yn rhoi cyfle i bobl ifanc fu mewn gofal graffu ar flaenoriaethau CASCADE. Hefyd, mae'n adnabyddus am ei gwaith ysgrifennu, ei gwaith ymchwil a'i siarad cyhoeddus am faterion plant.
Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys hawliau plant, safbwyntiau plant Cymru am ddinasyddiaeth a hunaniaeth, plant sy'n derbyn gofal, amddiffyn plant, a mabwysiadu. Mae hi hefyd wedi ymgyrchu dros, ac ymchwilio i, anghenion a hawliau plant.
Bydd yr Athro Holland yn dechrau ar y swydd ar 20 Ebrill. Y Dirprwy Gomisiynydd Plant fydd yn ymgymryd â swyddogaethau'r Comisiynydd Plant o 28 Chwefror i 19 Ebrill.
Oedi wrth benodi
Ym mis Hydref 2014, daeth i'r amlwg bod yna oedi yn y broses o benodi olynydd i Keith Towler, yn rhannol oherwydd ad-drefnu cabinet Llywodraeth Cymru, a'r ffaith bod panel wedi methu dod i benderfyniad ynglŷn â phenodi'r Comisiynydd Plant nesaf. Bu'n rhaid ailddechrau'r broses.
Ar y pryd, fe soniodd Mr Towler am ei rwystredigaeth oherwydd yr oedi.
Dywedodd fod y broses o ddewis wedi bod yn "llai na pherffaith", a bod y cyfnod o drosglwyddo'r awenau yn fyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2014