Ateb y Galw: Lisa Palfrey

  • Cyhoeddwyd
Lisa PalfreyFfynhonnell y llun, Chichester Festival

Tro'r actores Lisa Palfrey yw hi'r wythnos hon i gael ei holi yn dwll gan Cymru Fyw. Mi gafodd Lisa ei henwebu gan Richard Harrington.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Yn dair oed yn mynnu eistedd gyda'r plant mawr ar y llawr gyda fy mhlât yn fy nghôl. Mi ges i fy nymuniad ond aeth y bwyd poeth off y plât a dros fy nghoesau. Nes i ddim cwyno gan bo' fi wedi 'neud gyment o ffys o eistedd gyda nhw.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Fi'n cofio gweld 'To Sir With Love' pan o'n i tua pump oed a syrthio mewn cariad gyda Sidney Poitier.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai Lisa wedi mwynhau cael gwersi gan Mr Poitier

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na ormod o ddewis!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe. Ma'r gwynt oer yn 'neud i mi grio am ryw reswm!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wrth gwrs ddim!

Dy hoff ddinas yn y byd?

Llundain. Efrog Newydd. Llandaf.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson Nadolig 1988. Noson geni fy annwyl ferch Lowri.

Oes gen ti datŵ?

Na.

Beth yw dy hoff lyfr?

'The Great Gatsby' - F Scott Fitzgerald.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Sgidie Sgidie Sgidie!

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad Lisa 'ta Imelda Marcos?

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

'Birdman'. Gwych iawn.

Dy hoff albwm?

'Hunky Dory' - David Bowie.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Taster menu Bryn Williams yn 'Odettes'. Mor mor hyfryd.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Dibynnu pwy sydd ar ochr arall y ffôn.

Pwy fydd yn Ateb y Galw wythnos nesa'?

Rhian Blythe.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Well i mi edrych yn brysur, mae Lisa wedi bwcio bwrdd!"