Howard Marks wedi marw
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r cyn-smyglwr cyffuriau, yr awdur a'r ymgyrchydd Howard Marks. Roedd yn 70 oed.
Yn enedigol o Fynydd Cynffig yn sir Pen-y-Bont ar Ogwr ac yn rhugl yn y Gymraeg, roedd yn enwog fel un o smyglwyr canabis mwya'r byd.
Cafodd Howard Marks ei eni ym Mynydd Cynffig ger Pen-y-bont yn 1945.
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Garw, ym Mhontycymer, cyn mynd ymlaen i Goleg Balliol, Prifysgol Rhydychen, i astudio ffiseg.
Tra'n astudio yn y coleg, bu'n arbrofi â'r cyffur canabis, cyn dechrau gwerthu'r sylwedd ymysg ei gyfoedion.
Erbyn 1972, roedd yn un o gyflenwyr canabis mwyaf gorllewin Ewrop.
Mae Howard Marks wedi sôn ei fod yn smyglo llwythi hyd at 30 tunnell o ganabis ar draws cyfandir Ewrop ar un adeg.
Cafodd ei gysylltu â nifer o fudiadau amlwg amrywiol gan gynnwys y CIA, yr IRA, MI6, a'r Mafia tra'n smyglo cyffuriau.
Yn y diwedd, cafodd ei ddal a'i ganfod yn euog gan yr awdurdodau gwrth-gyffuriau Americanaidd ac fe gafodd ddedfryd o 25 mlynedd.
Treuliodd saith mlynedd o'i ddedfryd yng ngharchar Terre Haute, Indiana.
Cafodd ei ryddhau ar barol yn gynnar, a hynny yn Ebrill 1995 oherwydd ei waith yn cefnogi ac addysgu carcharorion oedd yn wynebu'r system gyfiawnder yn America. Roedd Marks yn ymddwyn fel cynghorydd i'r carcharorion, wrth iddynt dderbyn gohebiaeth gan eu cyfreithwyr.
Mae'r awdur, Alun Gibbard, wedi ysgrifennu dau lyfr amdano gan gynnwys - Cymru Howard Marks.
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ddydd Llun, dywedodd ei fod yn "gymeriad hoffus".
"Person mae pobl wedi disgrifio ar hyd y blynyddoedd odd yn amhosib peidio ei licio fe. Oedd e'n gymeriad gwresog, meddwl annibynnol. Oedd e yn un oedd yn gofalu ac yn meddwl am bwy bynnag oedd gyda fe- neud i chi deimlo yn bwysig ac nid fe. Oedd y bersonoliaeth yn rhywbeth oedd wedi cydio yn nychymyg pawb a'i droi e yn beth fydden ni yn ei alw yn arwr y werin."
Mi oedd sawl un yn holi Howard Marks am ei safbwyntiau dadleuol ynglŷn â chyfreithloni cyffuriau, meddai Alun Gibbard, a'r niwed posib yr oedd wedi gwneud trwy smyglo cyffuriau.
"Oedd e yn dweud bod pethe wedi bod yn gyfreithlon - oedd yn foesol anghywir. Dyna le oedd y ddadl yn mynd trwy'r amser."
Tra roedd o yn 'casau Cymru' ar un cyfnod yn ei fywyd gan feddwl ei bod hi'n wlad 'gul, amherthnasol a diflas' mi ddaeth i barchu ei famwlad ar ôl dod i sylweddoli ei chyfraniad i'r byd yn y carchar yn America meddai.
Aeth ymlaen i 'sgrifennu am ei brofiadau - cafodd ei hunangofiant Mr Nice ei droi'n ffilm, gyda'i ffrind Rhys Ifans yn ei bortreadu ar y sgrin.
Ysgrifennodd fwy o lyfrau, a safodd fel ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol yn 1997 gan ganolbwyntio ar un pwnc yn unig - cyfreithloni cyffuriau.