Newid byd: Diwedd gwasanaeth cefnogol

  • Cyhoeddwyd
Aaron Plemming
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aaron Pleming wrth ei fodd yn cael gwirfoddoli gyda gwahanol sefydliadau yn ardal Caernarfon

Mae gŵr ifanc o Gaernarfon yn wynebu newidiadau mawr i'w fywyd petai Cyngor Gwynedd yn cael eu ffordd, ac yn torri ar y gwasanaethau maen nhw'n ei gynnig iddo.

Mae Aaron Pleming, 24 oed, yn dioddef o'r cyflwr parlys yr ymennydd, ac mae wedi bod yn ddibynnol ar weithwyr cefnogol i'w gefnogi yn ei fywyd bob dydd ers yn bump oed.

Mae Mr Pleming yn gorfod dibynnu ar ffram i gerdded, ac felly, mae'n dibynnu ar bobl eraill i'w gefnogi i adael y tŷ, lle mae'n byw gyda'i dad, ei fam, a'i chwaer.

Yn ddiweddar mae Mr Pleming wedi cael gwybod y bydd y gwasanaeth mae wedi ei dderbyn gan bedwar gweithiwr ers yn blentyn yn dod i ben: "Dwi wedi tyfu i fyny gyda gweithwyr cefnogol o fy amgylch, dyma'r unig beth dwi'n wybod, ac mae'r cyngor am ddod â hyn i ben oherwydd eu bod isho arbed prês."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd nad ydyn nhw'n gallu gwneud sylw ar achosion unigol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Pleming wedi cael cydnabydiaeth am ei waith gwirfoddoli

Ar hyn o bryd, mae Mr Pleming yn derbyn gwasanaeth cefnogol bedwar diwrnod yr wythnos, ac yn gwirfoddoli gyda sefydliadau "Mantell Gwynedd" a "Gwynedd Ni" yng Nghaernarfon am y deuddydd arall.

Yn y pedair sesiwn gefnogol, mae Mr Pleming yn cael cefnogaeth i gyflawni tasgau bob dydd fel "mynd i'r siop a chymdeithasu."

Dywedodd: "Mae'r gweithwyr cefnogol yn fwy na hynny i mi, hebddynt mae fy mywyd drosodd ... yr unig beth mae Cyngor Gwynedd yn fodlon ei gynnig i mi yn lle'r gwasanaeth ydi cael mynd i eistedd i ganolfan ddydd pob yn ail ddydd Sadwrn."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Er na allwn drafod achosion unigol, mae'r Cyngor yn gweithio gyda phob unigolyn i sefydlu eu hanghenion fel rhan o'r broses o asesu'r lefel briodol o gymorth a chefnogaeth sydd eu hangen arnynt yn ofalus.

"Ein nod yw cefnogi a chynnal annibyniaeth pobl a chynorthwyo unigolion i adeiladu ar eu cryfderau eu hunain fel y gallant ddiwallu eu hanghenion ac ehangu eu profiadau pryd bynnag y bo modd."