Gwahardd ysmygu mewn ceir fis Hydref
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gwaharddiad ar ysmygu mewn cerbydau sy'n cludo plant yn cael ei gyflwyno yn yr hydref.
Mae'n debygol y bydd hynny'n golygu y gallai pobl wynebu dirwy o £50 yn y fan a'r lle os ydyn nhw'n anwybyddu'r gwaharddiad.
Bydd y gwaharddiad yn dod i rym ar 1 Hydref eleni.
Mae'r cam wedi cael ei groesawu gan elusennau iechyd gan fod mwg ail law yn cynnwys mwy na 4,000 o gemegau, a nifer ohonyn nhw'n niweidiol.
Mae ymchwil yn awgrymu fod anadlu'r mwg yn gallu achosi afiechydon gan gynnwys asthma, heintiau'r ysgyfaint, problemau clyw a marwolaethau yn y crud.
Un ymhob 10
Yn ôl astudiaeth ddiweddar, dywedodd un plentyn ym mhob 10 yng Nghymru fod ysmygu yn digwydd yng nghar y teulu er bod y cyfraddau wedi disgyn yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones fe fyddai'r gwaharddiad yn caniatáu i blant gael y dechrau gore mewn bywyd.
Mae'n debygol mae'r heddlu fydd yn gyfrifol am blismona'r gwaharddiad.
Yn ôl Cymdeithas yr Ysgyfaint, fe fydd cyflwyno'r gwaharddiad yn diogelu miloedd o blant. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill i gyflwyno gwaharddiadau tebyg yn Lloegr a'r Alban.
Wrth gyhoeddi'r gwaharddiad ddydd Iau, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford: "Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i anadlu awyr lân a mwynhau amgylcheddau di-fwg.
"Gall amddiffyn plant rhag anadlu mwg ail-law eu helpu nhw i gael y dechrau gorau mewn bywyd.
"Mae anadlu mwg ail-law yn fygythiad difrifol i iechyd plant; mae'n gallu achosi iddyn nhw fod yn agored i amrywiaeth o gyflyrau iechyd fel heintiau'r pibellau anadlu isaf, asthma, clefyd y glust ganol a heintiau difrifol eraill".
Plant "ddim yn gallu dianc"
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Ruth Hussey: "Dyw plant ddim yn gallu dianc rhag y cemegau gwenwynig sydd mewn mwg ail-law pan fyddan nhw'n teithio mewn cerbydau.
"Bydd newid y gyfraith i wahardd smygu mewn ceir sy'n cludo plant yn eu hamddiffyn rhag y niwed sy'n gysylltiedig ag anadlu mwg ail-law mewn cerbydau preifat, yn annog ysmygwyr i gymryd camau i ddiogelu plant rhag mwg ail-law, ac yn arwain at leihau nifer y cyflyrau iechyd ymysg plant sy'n cael eu hachosi gan fwg ail-law."
Dadansoddiad Dr Amy Brown, Adran Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Abertawe
"Mae hyd yn oed ysmygu mewn car am ychydig funudau, ar y ffordd i'r ysgol er enghraifft, yn cael effaith ar blant.
"Mae ysmygu mewn car llonydd - fel bod yn sownd mewn traffig - yn gallu achosi i lefelau mwg yn y car godi hyd at 11 gwaith yr hyn y byddech yn profi mewn ystafell gaeedig lle mae rhywun yn smygu ynddi, megis mewn bariau a thafarnau cyn i'r gwaharddiad ar ysmygu ddod i rym.
"Os bydd y car yn symud, fe fydd y lefel hyn yn gostwng hyd at saith gwaith y lefel, ond hyd yn oed wedyn, os yw'r ffenestri ar agor ac mae'r ysmygwr yn dal y sigarét wrth y ffenestr, bydd yn dal i fod yr un fath ag eistedd mewn ystafell fyglyd.
"Gall hyd yn oed ysmygu mewn car pan na fydd y plant yn bresennol cael effaith ar eu hiechyd.
"Gall gymryd ychydig oriau i fwg glirio yn iawn o gar.
"Yn ail rydym bellach yn gwybod bod y fath beth â 'mwg trydydd llaw' ble mae'r gronynnau o'r mwg yn casglu ar yr wyneb, yn enwedig arwynebau meddal, megis seddi ceir. Gallant aros yno am fisoedd ar ôl i sigarét gael ei ysmygu."