Undebau'n trafod diswyddiadau posib 2Sisters, Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
![2 Sisters Llangefni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/640/mcs/media/images/81178000/jpg/_81178855_81178854.jpg)
Mae arweinwyr undebau wedi cael eu galw i gyfarfod ar safle prosesu ieir 2 Sisters yn Llangefni ddydd Llun i drafod diswyddiadau posib.
Mae pryder ynglŷn â'r posibilrwydd o golli nifer o swyddi yn un o gyflogwyr mwyaf Ynys Môn.
Mae tua 800 o bobl yn gweithio ar y safle, yn cynnwys nifer o weithwyr asiantaeth.
Cadarnhaodd y cwmni bod rhai swyddi mewn perygl wrth iddynt ystyried "symleiddio" y busnes i gynnal safon ei gynnyrch.