Deddf gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn dod i rym

  • Cyhoeddwyd
CyffuriauFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Bydd deddf newydd yn dod i rym ddydd Llun er mwyn ceisio dal pobl sydd yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn gosod lefelau cyfreithiol ar gyfer faint o gyffuriau - rhai anghyfreithlon neu feddyginiaeth - y gall modurwyr eu cael yn eu system wrth yrru.

Bydd yr heddlu yn cario dyfais newydd fydd yn eu galluogi i gynnal prawf ar ochr y ffordd i weld os ydi gyrrwr wedi cymryd canabis neu gocên.

Fe fydd y system yn caniatáu i swyddogion wybod mewn llai na 10 munud os oes gan fodurwr sylwedd anghyfreithlon yn ei gorff, drwy gymryd swab o geg y gyrrwr.

Bydd unrhyw un sy'n methu'r prawf yn cael eu harestio a'u cludo i'r ddalfa lle bydd sampl gwaed yn cael ei gymryd.

Erlyniad

Wedyn bydd y sampl gwaed yn cael ei anfon i gael ei brofi ac os yw lefelau anghyfreithlon o gyffuriau yn cael eu canfod yna gall y modurwr hwnnw wynebu cael ei erlyn am yrru dan ddylanwad cyffuriau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud hi'n haws i'r heddlu adnabod ac erlyn gyrwyr sy'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

"Nid oes rhaid i chi fod ar gyffuriau anghyfreithlon i fod yn beryglus ar y ffordd - mae nifer o bresgripsiynau neu feddyginiaethau y gallwch eu prynu dros y cownter yn gallu'ch effeithio.

'Peryglu bywyd'

"Mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau nid yn unig yn rhoi'r troseddwr a theithwyr y cerbyd mewn peryg ond mae hefyd yn peryglu bywyd defnyddwyr eraill y ffyrdd. Mae gennym agwedd dim goddef tuag at y rhai hynny sy'n yfed a gyrru, ac ni fyddwn chwaith yn goddef gyrru dan ddylanwad cyffuriau".

Ychwanegodd: "Os ydych yn cymryd eich meddyginiaeth yn ôl y cyfarwyddiadau ac os nad yw'n effeithio'ch gyrru, nid ydych yn torri'r gyfraith.

"Os bydd cyffuriau yn amharu ar eich sgiliau gyrru yna bydd hyn yn drosedd, ac os ydych yn ansicr ni ddylech yrru."

Y gosb dan y ddeddf newydd fydd gwaharddiad gyrru am 12 mis, dirwy o hyd at £5,000 a hyd at chwe mis o garchar - neu'r ddau, yn ôl yr heddlu.