O Gaffi Sali Mali i'r Café Football
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwr pêl-droed o Gaernarfon wedi gwireddu breuddwyd wedi i rai o gyn-chwaraewyr enwocaf Manchester United ei wahodd i gynllunio gwaith celf ar gyfer eu gwesty newydd.
Cafodd Neil Roberts ei wahodd i seremoni arbennig i ddathlu agoriad swyddogol 'Hotel Football' dros y penwythnos, sydd dafliad carreg o gae Manchester United - Old Trafford.
Rheolwr canolfan chwarae yng Nghaernarfon yw Mr Roberts o ddydd i ddydd, ond efallai ei fod yn fwy adnabyddus fel yr un oedd yn chwarae rhan Nicw Nacw yn y gyfres deledu i blant, Caffi Sali Mali. Ond yn ddiweddar mae wedi bod yn arbrofi gyda meddalwedd arbennig ar ei gyfrifiadur er mwyn creu delweddau amgen o beldroedwyr enwog.
Wrth i Mr Roberts drydar enghreifftiau o'i waith arbrofol, daeth i sylw cyn-gapten Manchester United - Gary Neville.
Gary Neville a Ryan Giggs, ynghyd a rhai o'u cyn-gyd-chwaraewyr sydd tu ôl i sefydlu'r gwesty pedair seren gyda 133 llofft, a bwyty sydd â naws 'bêl-droedaidd' iddo. Hefyd, mae rhan o'r gwesty wedi ei glustnodi ar gyfer cyrchfan i gymdeithas cefnogwyr y clwb, lle mae cyfle i gefnogwyr gyflwyno eu trugareddau a henebion er mwyn addurno'r gofod.
Dywedodd Mr Roberts ei fod wedi bod yn creu gwaith celf ers ei gyfnod yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.
"Mi 'nes i astudio celf ar gyfer TGAU, a gwneud NVQ, ond mae gwneud delweddau o'r math yma yn gwbl newydd i fi," meddai.
"Mae gen i ambell i ddarlun efo paent i fyny yn rhai o dafarndai Caernarfon, ond wrth chwarae ac arbrofi efo'r meddalwedd illustration 'ma 'nes i ddatblygu steil newydd.
"Dwn im be ti'n galw'r math yma o gelf - celf amlinellol efallai?
"Pan gysylltodd rhywun o'r gwesty am y tro cyntaf, mi neshi wrthod y cynnig yn syth gan feddwl nad oeddwn yn ddigon da 'na phrofiadol, ond ar ôl meddwl yn hir am y peth, mi newidias fy meddwl a chysylltu efo nhw'n ôl.
Mae wedi cymryd chwe mis i Mr Roberts greu llinell amser o chwaraewyr amlycaf Manchester United o gyfnod Syr Matt Busby hyd at y presennol, sy'n cynnwys delweddau o Eric Cantona, David Beckham, Ryan Giggs a George Best.
"Roedd yn brofiad gwych bod yn rhan o'r seremoni agoriadol a chael cyfle i gyflwyno fy ngwaith i Gary Neville, Paul Scholes a Nicky Butt, sydd i gyd yn rhan o fenter y gwesty.
"Dywedodd Neville wrthai ei fod wir yn hoffi fy ngwaith, ac mae'n wych clywed hynny gan mai hobi yn unig ydi hyn i mi.
"Mai'n anodd cymryd yr holl beth i mewn, pan fyddai'n meddwl rŵan y bydd pobl o bob rhan o'r byd fydd yn aros yn y gwesty yn gweld fy ngwaith.
"Tydw i 'rioed wedi meddwl gwneud gyrfa o ddylunio, ond mi fyswn wrth fy modd yn cael cyfle i greu mwy o waith tebyg, cyn belled nad ydi o'n cynnwys darlunio chwaraewyr Lerpwl!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2015