Ymchwiliad 'yn siomi ymgyrchwyr'

  • Cyhoeddwyd
Babi'n derbyn gofal dwys

Mae ymgyrchwyr sy'n credu bod tabledi wnaethon nhw gymryd er mwyn darganfod os oedden nhw'n feichiog wedi niweidio eu plant cyn iddyn nhw gael eu geni, yn dweud eu bod nhw "wedi eu siomi" gyda'r ymchwiliad i'w honiadau.

Mis Hydref y llynedd, mi wnaeth Llywodraeth y DU sefydlu panel annibynnol er mwyn ystyried tystiolaeth bod y cyffur Primodos, prawf beichiogrwydd hormonal oedd yn boblogaidd yn y 1960au a 70au, wedi achosi namau geni ac wedi i achosi i ferched golli plant.

Roedd Cymdeithas Plant sydd wedi eu Niweidio gan Brofion Beichiogrwydd Hormonal wedi cael ar ddeall y byddan nhw'n cyfarfod gyda chadeirydd y panel annibynnol wythnos nesaf.

Ond mae'r cadeirydd, Marie Lyon, bellach wedi clywed na fydd y cyfarfod yn mynd yn ei flaen.

'Pryder mawr'

Dywedodd: "Mae hynny'n achosi pryder mawr i mi.

"Rydach chi'n anobeithio'n llwyr, wedi i chi dderbyn addewid o ymchwiliad trylwyr, y byddech chi'n cael chwarae rhan lawn."

Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Cynnyrch Meddygol a Gofal Meddygol (MHRA), sy'n goruchwylio'r ymchwiliad, yn dweud eu bod wedi derbyn cyngor y gall y cyfarfod effeithio ar ba mor ddi-duedd yw'r adolygiad.

Mae'r MHRA yn dweud y bydd Marie Lyon yn cael ei gwahodd i holl gyfarfodydd y grŵp arbenigol a bod croeso i'r gymdeithas gyflwyno tystiolaeth.

Mae AS Aberconwy, Guto Bebb, wedi codi'r mater yn y Senedd wedi i etholwr, sy'n aelod o'r gymdeithas, gysylltu ag ef.

Mae'n deall pryderon yr ymgyrchwyr, ond nid yw'n credu bod yr ymchwiliad yn llai na'r hyn gafodd ei addo.

Dywedodd: "Mae'r sefyllfa'n un o rwystredigaeth arferol gyda'r ffordd mae'r llywodraeth yn gweithio.

"Ond ni fyddwn ni'n brysio i ddod i gasgliad ynglŷn ag israddio beth sydd wedi'i addo gan weinidogion".

Ateb cwestiynau

Mae'r cyfreithiwr o Gaerdydd, Dr Sarah-Jane Richards, wedi cynrychioli cleientiaid ynglŷn â Primodos. Mae hi'n credu y gall yr ymchwiliad, os yw'n cael ei gynnal yn gywir, atebion cwestiynau a phryderon yr ymgyrchwyr.

Dywedodd: "Ar ôl hynny bydd rhaid i'r ymchwiliad a'r ymgyrchwyr benderfynu sut maen nhw am ddefnyddio'r wybodaeth, ac os gall rhoi'r dystiolaeth a'r gefnogaeth sydd angen i ddod ag achos cyfreithiol."

Cafodd achos cyfreithiol yn erbyn Schering - cynhyrchwr gwreiddiol Primodos - ei atal yn 1982 oherwydd diffyg tystiolaeth.

Cafodd cwmni Schering ei gymryd drosodd gan Bayer, sy'n dweud nad oes dim gwybodaeth wyddonol bellach wedi dod i'r amlwg ers hynny i herio'r safiad nad oes cyswllt rhwng y defnydd o Primodos a namau geni.

Bydd mwy i'w glywed ar raglen Eye On Wales ar BBC Radio Wales, dydd Sul, 8 Mawrth, 12:30.