Cylchffordd Cymru yn denu buddsoddiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn tu ôl i gynllun trac rasio Cylchffordd Cymru yng Nglyn Ebwy ym Mlaenau Gwent wedi dweud fod £120m wedi cael ei addo yn barod i ddatblygu'r cynllun gan fuddsoddwyr.
Mae dwy ran o dair o'r arian sydd ei angen wedi cael ei gynnig gan sefydliadau ariannol yn Asia ac UDA, ar yr amod fod y cynllun yn derbyn y caniatad perthnasol.
Dywed Michael Carrick ei fod wedi derbyn "cefnogaeth bositif" gan y cyngor a'r gymuned leol.
Mae wedi gosod targed o £200m o fuddsoddiad preifat er mwyn cychwyn y gwaith adeiladu, gyda disgwyl y bydd gweddill yr arian yn dod gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Cafodd cynlluniau gwreiddiol ar gyfer Cylchffordd Cymru eu cyhoeddi dros dair blynedd yn ôl, er bod nifer o broblemau wedi codi ers hynny.
Ymchwiliad cyhoeddus
Bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cychwyn ddydd Mawrth, fydd yn trafod dad-gofrestru tir comin sydd yn rhan o safle'r datblygiad.
Dywedodd Mr Carrick, prif weithredwr cwmni Cylchffordd Cymru, wrth BBC Cymru ei fod wedi cymryd "misoedd a misoedd a miliynau o bunoedd" i ymateb i bryderon am defnydd y tir ar safle'r trac rasio.
Roedd yn credu y gallai gymryd misoedd cyn clywed canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus, ond bod angen dwyn i ystyriaeth yr oblygiadau amgylcheddol.
Gobaith y datblygwyr ydi cynnig gwaith i hyd at 6,000 o bobl a hybu economi Blaenau Gwent, sydd wedi bod yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn draddodiadol.
Roedd y gwaith datblygu ar y safle i fod i ddechrau fis diwethaf, ond er i'r cynllun dderbyn caniatad cynllunio amlinellol bron i ddwy flynedd yn ôl, mae'r datblygiad wedi gweld nifer o broblemau yn ymwneud ag ariannu a thrafodaethau cynllunio ehangach.
Silverstone
Er bod y gylchffordd wedi ennill yr hawl i gynnal ras MotoGP am hyd at ddegawd, bydd rhaid i drac rasio Silverstone gamu i'r bwlch a chynnal y gystadleuaeth hyd at 2017 gan nad ydi Cylchffordd Cymru wedi ei adeiladu.
Ychwanegodd Mr Carrick: "Rydym angen £200m o gyfalaf preifat yn dod i mewn i'r cynllun hwn - dyna'r lleiafswm.
"Pan rydym wedi codi'r arian yma ac wedi bodloni'r holl ofynnion...a'r holl bethau sydd ynghlwm a'r hyn sydd yn digwydd yma nesaf...yna fe awn ymlaen ac adeiladu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd2 Medi 2014
- Cyhoeddwyd13 Awst 2014