Pryder toriadau i ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bro HyddgenFfynhonnell y llun, Google

Mae rhieni ym Machynlleth yn honni eu bod yn cael eu hanwybyddu wedi toriadau diweddar i gyllideb ysgol newydd y dref, Bro Hyddgen.

Maen nhw'n honni bod cytundeb ar lafar i beidio gwneud toriadau i gyllideb yr ysgol wedi ei dorri.

Dywedodd y llywodraethwyr bod addewid wedi ei wneud na fyddai unrhyw doriadau o fewn tair blynedd i'r uno, ond mae Cyngor Sir Powys wedi dweud wrth yr ysgol eu bod yn wynebu toriadau allai arwain at ddiswyddiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Tref, Rhydian Mason: "Yn hytrach na bod yn dref bwysig ar gyrion tair sir, mae Machynlleth yn teimlo'n fwy fel 'outpost' mae pawb yn anghofio amdani.

"Os na fedrwn ni ymddiried yn ein cyngor sir ar gwestiynau elfennol fel hyn, 'dwi'n cwestiynu oes modd ymddiried yn y Cyngor o gwbl."

Mewn datganiad i raglen Taro'r Post ar Radio Cymru, dywedodd Cyngor Sir Powys eu bod wedi derbyn llythyr gan lywodraethwyr Bro Hyddgen yn ymwneud a diswyddiadau a chyllidebau, ac y bydden nhw yn ymateb maes o law.