Mae'n Haf ar hyd y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Fe fydd pawb o fy nghenhedlaeth i yn gyfarwydd â'r gan "Big Rock Candy Mountain". Roedd hi'n cael ei chwarae hyd syrffed a'r Children's Choice bob bore Sadwrn ar y Light Programme ac yn amlach na pheidio fe fyddai fersiwn Gymraeg Dafydd Iwan "Bryniau Bro Afallon" yn ymddangos ar "Helo, Sut Da Chi?" awr yn ddiweddarach.

Go brin y byddai'r fersiwn Saesneg â'i chyfeiriad at "cigarette trees" yn cael ei chwarae ar raglen blant y dyddiau hyn ond mae'r fersiwn Gymraeg o hyd yn gweithio;

Ar fryniau Bro Afallon mae pawb yn byw yn hen, Does neb yn colli ei dymer Ac mae gwg 'run fath â gwên... ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Am ryw reswm mae'r gân honno yn mynd trwy fy meddwl bod tro mae aelodau'r Cynulliad yn trafod y mesur Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, bil sy'n cwblhau ei daith ddeddfwriaethol heddiw.

Beth yw pwrpas y mesur? Dyma ddisgrifiad y Llywodraeth ei hun o'r bwriad;

"Bydd Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod nodau uchelgeisiol, hirdymor i adlewyrchu'r Gymru y carem ei gweld, nawr ac yn y dyfodol. Mae'r rhain ar gyfer Cymru lewyrchus; gydnerth; iachach; mwy cyfartal; â chymunedau cydlynus; a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu."

Go brin y gall unrhyw un anghytuno a'r bwriad mwy nac y gallai unrhyw un ddrwglicio Afallon Dafydd Iwan ond sylwer mai son am nodau (goals) mae'r mesur nid targedau.

Fe welwch draw ar y tudalennau newyddion bod Lee Waters, cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig o'r farn bod hwn yn fesur heb bwrpas clir wedi ei greu gan weinidogion "wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau".

Mae hi braidd yn annheg dweud bod y mesur yn un dibwrpas. Y pwrpas yw creu'r 'nefolaidd fro' y mae'r Llywodraeth yn ei disgrifio yn y crynodeb. Sut mae gwneud hynny? Wel yn y modd mwyaf Cymreig posib sef trwy ffurfio pwyllgor - neu i fod yn fanwl gywir cyfres o fyrddau rhanbarthol a chomisiynydd.

Nawr mae 'n lawer o drafod a brwydro wedi bod ynghylch y mesur arall sy'n cwblhau ei daith ddeddfwriaethol heddiw. Y mesur Trais yn Erbyn Merched yw hwnnw a gall neb ddadlau na fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau nifer sylweddol o bobl ac yn newid Cymru er gwell.

Oes modd dweud hynny am y mesur Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol?

Mae'r rheithgor allan.