Cyfle i bobl ifanc berfformio mewn band a threfnu gigs

  • Cyhoeddwyd
Osian Huw Williams yn hyfforddi rhai o'r bobl ifanc sy'n rhan o'r prosiectFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Osian Huw Williams yn hyfforddi rhai o'r bobl ifanc sy'n rhan o'r prosiect

Mae cenhedlaeth newydd o gerddorion wedi cael cyfle i gael dosbarthiadau meistr gyda dau o sêr y Sîn Roc Gymraeg, wrth i gynllun newydd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Menter Maldwyn ymweld ag ysgolion ar draws y dalgylch.

Cafodd disgyblion pedair o ysgolion uwchradd yr ardal gyfle i ddysgu am bob agwedd o'r byd cerddorol - o berfformio mewn band a pharatoi lleoliad i drefnu gig a ffilmio fideo - mewn gweithdai gydag arbenigwyr o'r sîn Gymraeg.

Dros yr wythnosau nesa', bydd gig yn cael ei chynnal ym mhob un o'r ysgolion, gyda chyfle i'r bandiau sydd wedi cael eu hyfforddi i berfformio ag enillydd band gorau'r flwyddyn yng Ngwobrau'r Selar yn ddiweddar, Candelas.

'Prosiect cyffrous'

Y cerddor a'r hyfforddwr amlwg, Meilir Gwynedd, sy'n arwain y cynllun, gydag Osian Huw Williams o'r grŵp Candelas hefyd yn rhan o'r tîm hyfforddi.

Meddai Meilir, "Mae'r ymateb gan yr ysgolion lleol wedi bod yn arbennig.

"Mae'n brosiect cyffrous iawn ac mae'n braf bod modd i ni weithio dros gyfnod gyda'r bobl ifanc er mwyn datblygu eu sgiliau. Gobeithio y byddan nhw wedyn yn teimlo'n ddigon hyderus i drefnu gigs eu hunain yn yr ardal yn y dyfodol.

"Mae'n braf hefyd cydweithio gyda Menter Maldwyn, a rydan ni wedi mwynhau cychwyn ar y prosiect a chynnal dosbarthiadau meistr ar draws y dalgylch dros yr wythnosau diwethaf."

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae pedair ysgol wedi bod yn rhan o'r cynllun

Yr ysgolion sy'n rhan o'r prosiect yw Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, Ysgol Uwchradd Llanidloes, Ysgol Bro Hyddgen, Ysgol Uwchradd Llanfyllin a bydd y daith hefyd yn ymweld ag Ysgol y Berwyn, Y Bala.

Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Gronfa Bwrw 'Mlaen Llywodraeth Cymru.

Daw'r prosiect wedi cyhoeddiad yn ddiweddar bod fformat cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn newid, wrth i C2 Radio Cymru, Maes B a Mentrau Iaith Cymru ddod at ei gilydd i annog mwy o fandiau a pherfformwyr ifanc i gystadlu.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn cael ei chynnal ym Meifod rhwng 1-8 Awst.