Llifogydd Cwmclydach 1910 // Clydach Vale flood 1910

  • Cyhoeddwyd
Dioddefodd pentref Cwm Clydach drychineb farwol yn 1910 ac er na ddigwyddodd y trychineb hwn dan ddaear, yr hen weithfeydd glo oedd yn uniongyrchol gyfrifol amdano // Clydach Vale suffered a tragic disaster in 1910 and though not underground, it was the mineworkings which were directly responsibleFfynhonnell y llun, Michael Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dioddefodd pentref Cwmclydach drychineb yn 1910 ac er na ddigwyddodd dan ddaear, yr hen weithfeydd glo oedd yn uniongyrchol gyfrifol amdano // Clydach Vale suffered a tragic disaster in 1910 and though not underground, it was the mineworkings which were directly responsible

Ffynhonnell y llun, Michael Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd un o'r lefelau 'Perch' gwreiddiol, wedi bod yn segur am bum mlynedd. Roedd dŵr wedi bod yn cronni yn y lefelau segur hyn, a thua 4.00 pm ddydd Gwener 11 Mawrth 1910, dymchwelodd ochr y mynydd ac ysgubodd llifeiriant o ddŵr ynghyd â phentyrrau o bridd, clogfeini a rwbel i lawr ochr y mynydd // One of the Perch seams, which had been obsolete for five years, had been filling with water and about 4.00pm on Friday March 11, 1910, the side of the mountain blew, pumping tons of earth, rubble and water down the mountain

Ffynhonnell y llun, RCT
Disgrifiad o’r llun,

Teras Adams oedd yn gorfod wynebu'r llifeiriant hwn gyntaf. Cafodd y tŷ cyntaf ei chwalu fel pecyn o gardiau gan ladd Elizabeth Ann Williams a'i merch bedwar mis oed. Cafodd 11 o dai a siop y crydd eu dinistrio // Adams Terrace took the full force of the flood and the first house it hit was totally destroyed, killing its occupants Mrs Elizabeth Ann Williams and her four month old baby. Eleven houses were destroyed along with the cobbler's shop

Ffynhonnell y llun, Michael Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llifodd y dŵr i lawr i gyfeiriad Ysgol Cwm Clydach, lle'r oedd naw cant o blant. Roedd y llif yn symud mor gyflym, roedd yn amhosibl symud pawb. Yn ôl adroddiad papur newydd o'r cyfnod, roedd plant yn cael eu hyrddio i bob cyfeiriad ac yn arnofio yn y dŵr // The flood moved towards Clydach Vale School where it struck so suddenly that, according to a newspaper report of the time, children were being hurled in every direction and were floating on the water

Ffynhonnell y llun, RCT
Disgrifiad o’r llun,

Yn ffodus roedd glowyr ar eu ffordd o'r gwaith yn pasio'r ysgol ac aethon nhw ati'n syth i achub y plant, gan osod polion ac ysgolion yn erbyn waliau'r ysgol a'u helpu i gyrraedd diogelwch // Fortunately miners on their way home from work were passing the school at the time. They responded immediately and placed poles and ladders against the walls of the school to help the children reach safety

Ffynhonnell y llun, RCT
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer fawr o blant a oedd yn gaeth ym muarth y plant eu codi dros wal yr ysgol a'u hachub // A large number of children who had been trapped in the school yard were lifted over the wall and saved

Ffynhonnell y llun, Michael Jones
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf ymdrechion dewr yr achubwyr, boddodd tri o'r plant ysgol, Blodwen Davies, 9, Enid Howells, 6 a Gertrude Rees, 5. Bu farw Elizabeth a Frances Williams a Haydn Brimble o Deras Adams hefyd // Despite their brave attempts, three school children lost their lives, Blodwen Davies, 9, Enid Howells, 6 and Gertrude Rees, 5. Along with Elizabeth and Frances Williams and Haydn Brimble who perished at Adams Terrace