Dynes wedi ei saethu yn ystod dadlau rhwng gangiau cyffuriau - llys

Bu farw Joanne Penney, 40, ar ôl cael ei darganfod ag anafiadau difrifol mewn fflat yn Nhonysguboriau
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed bod dynes wedi ei saethu'n farw mewn fflat yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn ffrae rhwng dau grŵp troseddol oedd yn delio cyffuriau.
Bu farw Joanne Penney, 40, ar 9 Mawrth 2025 yn dilyn y digwyddiad mewn fflatiau yn Llys Illtyd, Tonysguboriau.
Ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Llys y Goron Caerdydd, dangoswyd lluniau CCTV i'r rheithgor o'r eiliad y cafodd Ms Penney ei saethu'n farw ar y stepen ddrws.
Mae chwech o bobl – Marcus Huntley, Kristina Ginova, Joshua Gordon, Tony Porter, Melissa Quailey-Dashper, a Jordan Mills-Smith – yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Cafodd yr heddlu eu galw i Lys Illtyd yn Nhonysguboriau ar 9 Mawrth 2025
Wrth gyflwyno'r achos i'r rheithgor, dywedodd yr erlynydd Jonathan Rees KC fod marwolaeth Ms Penney wedi dod o ganlyniad i ffraeo rhwng grwpiau troseddol.
Roedd y diffynyddion i gyd yn aelodau o giang o Gaerlŷr o'r enw Grŵp Rico oedd yn delio cyffuriau, ac wedi dechrau gweithredu yng Nghaerdydd.
Wedi eu harwain gan Mr Gordon, 27, roedd Ms Ginova, 21, Mr Porter, 68, a Ms Quailey-Dashper, 40, wedi eu lleoli yng Nghaerlŷr, tra bod Mr Huntley, 21, a Mr Mills-Smith yn eu cynorthwyo yng Nghymru.
Ond fe ddaethon nhw i wrthdaro gyda giang arall oedd eisoes yn gweithredu yn ardal Caerdydd, gan ddod i gythrwfl ar sawl achlysur yn arwain at farwolaeth Ms Penney.
Un ergyd
Clywodd y llys fod y pedwar o Gaerlŷr wedi teithio i Gaerdydd ar 9 Mawrth, cyn teithio ymlaen i Donysguboriau.
Pan gyrhaeddon nhw fflat Ms Penney, fe gnociwyd ar y drws, a phan agorodd hi, cafodd ei saethu unwaith yn ei brest, gyda'r bwled yn mynd drwy ei chalon a'i hysgyfaint.
Mae'r erlyniad yn honni mai Mr Huntley daniodd y gwn, ond fod pob un o'r chwe diffynnydd yn "gydradd gyfrifol am ei llofruddiaeth, a bod pob un wedi chwarae eu rhan ym marwolaeth Joanne Penney".
Yn dilyn y saethu cafodd yr heddlu eu galw, ac fe ddaethon nhw o hyd iddi yn gorwedd ar ei chefn ac yn ddiymadferth ar lawr ystafell fyw y fflat.
Doedd dim modd ei hachub a bu farw yn y fan a'r lle.
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
Yn ddiweddarach, cafodd bag ei ganfod mewn coedwig gyfagos gyda gwn a bwledi ynddo.
Yn ôl yr erlyniad, roedd hwn yn ddryll wedi ei greu ar gyfer cychwyn rasus rhedeg, ond wedi ei addasu er mwyn gallu saethu bwledi.
Clywodd y llys fod y bwledi hefyd wedi eu haddasu, a bod y bwledi gafodd eu darganfod yn y goedwig yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd yn cyd-fynd â'r fwled a'r getrisen gafodd eu darganfod yn safle'r farwolaeth.
Cafodd fideo ei chwarae i'r rheithgor oedd wedi cael ei ganfod ar ffôn Mr Huntley o'r diwrnod cyn y farwolaeth.
Ynddo, roedd Mr Huntley i'w weld yn gafael mewn gwn, gydag arbenigwr yn dweud bod "tebygrwydd agos" rhwng hwnnw a'r un gafodd ei ganfod yn ddiweddarach.
Clywodd y llys fod archwiliad DNA ar y gwn wedi dod o hyd i olion Mr Huntley, a'i bod hi bron yn sicr fod y gwn "wedi cael ei drin gan Mr Huntley".

Pump o'r chwe diffynnydd, o'r chwith, Marcus Huntley, Tony Porter, Melissa Quailey-Dashper, Jordan Mills-Smith a Joshua Gordon
Roedd y fflat lle cafodd Ms Penney ei lladd yn cael ei gysylltu â chyffuriau, meddai'r erlyniad, ond nid dyna oedd ei chartref parhaol.
Bu dau ddigwyddiad yn fflat yn yr wythnosau cyn ei marwolaeth ble roedd aelodau Grŵp Rico yn teimlo eu bod wedi cael eu sarhau gan y grŵp arall oedd yn delio yng Nghaerdydd.
Oherwydd hynny, meddai'r erlyniad, fe benderfynon nhw "saethu rhywun yn y lleoliad hwnnw" er mwyn talu'r pwyth, am nad oedden nhw wedi medru defnyddio'r lle i ddelio cyffuriau bellach.
Delweddau CCTV
Cafodd lluniau CCTV eu chwarae i'r rheithgor yn dangos Ms Quailey-Dashper, Mr Huntley a Mr Mills-Smith yn dod allan o gar ger Llys Illtud, cyn cerdded tuag at y fflat.
Yna fe wnaeth delweddau CCTV gwahanol ddangos yr eiliad pan mae'r erlyniad yn honni i Ms Quailey-Dashper gnocio ar y drws, cyn camu o'r neilltu wrth i Mr Huntley saethu Joanne Penney.
Wedi hynny, cafodd y tri eu gweld yn rhuthro i ffwrdd ac yn ôl i'r car cyfagos, cyn cael eu gyrru ymaith.
Teithiodd y car i gyfeiriad yn Llaneirwg, oedd yn agos i'r man lle cafwyd hyd i'r gwn, cyn i'r cwe diffynnydd fynd i gyfeiriadau gwahanol.
Yn ddiweddarach, fe wnaeth Mr Huntley anfon neges i rywun ar Snapchat yn dweud y byddai'n "treulio amser hir yn y carchar am beth ddigwyddodd yn Nhonysguboriau" oni bai ei fod yn gallu "dianc o'r wlad".
Datganiadau'r diffynyddion
Yn y dyddiau'n dilyn y farwolaeth cafodd y chwech eu harestio, ac fe wnaeth Mr Gordon wadu llofruddio pan gafodd ei holi gan yr heddlu.
Ond mewn sgwrs ffôn gyda'i fam fis yn ddiweddarach, fe ddywedodd wrthi nad oedden nhw "i fod i gael dynes".
Mewn datganiad wedi ei baratoi, fe wnaeth Mr Huntley wadu ei fod wedi saethu Ms Penney, gan ddweud eu bod nhw yn Nhonysguboriau y diwrnod hwnnw i ddelio cyffuriau, a'i fod wedi rhedeg ar ôl clywed sŵn uchel.
Ond mewn sgwrs ddiweddarach gydag unigolyn arall, fe gyfeiriodd at y ffrae gyda delwyr cyffuriau eraill a dweud bod "rhaid gwneud beth mae rhaid gwneud".
Pan gafodd Ms Quailey-Dashper ei holi, dywedodd ei bod hi wedi cnocio ar y drws heb wybod fod bwriad i saethu rhywun yn y fflat.
Dywedodd Ms Ginova wrth swyddogion ei bod hi mewn car gwahanol i'r pump arall oedd wedi mynd i Donysguboriau.
Ychwanegodd ei bod hi ar ddeall mai'r bwriad oedd "saethu rhywun yn y goes", ac nad oedd Joanne Penney yn darged penodol.
Fe hawliodd Mr Porter ei fod wedi gyrru'r grŵp o Gaerlŷr i Gaerdydd ac yna i Donysguboriau, ond ei fod yn credu mai "casglu parsel" oedd y bwriad, ac nad oedd yn gwybod beth ddigwyddodd.
Fe wnaeth Mr Mills-Smith wrthod gwneud sylw wrth gael ei holi.
Mae'r chwe diffynnydd yn gwadu'r cyhuddiad o lofruddiaeth yn eu herbyn.
Mae Mr Gordon, Ms Ginova, Mr Porter a Ms Quailey-Dashper hefyd yn gwadu cyhuddiad o fod yn rhan o weithgaredd grŵp troseddol, ac mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.