Stiwdio James Bond 'yn mynd o nerth i nerth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r stiwdio sy'n gyfrifol am lwyddiant ffilmiau James Bond yn nodi blwyddyn ers cyhoeddi cynlluniau datblygu.
Ers misoedd mae staff Pinewood Shepperton wedi symud i mewn i'r ganolfan 180,000 troedfedd sgwâr yng Ngwynllwg rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sy'n ymweld â'r stiwdio er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd y diwydiannau creadigol i'r economi.
Mae'r gwaith ar un o gynyrchiadau cyntaf Pinewood ar fin dechrau, Bastard Executioner, drama hanesyddol ar gyfer sianel gebl FX yn yr Unol Daleithiau.
Gwrthryfel
Hanes marchog o'r 14eg ganrif yw hwn a drodd yn ddienyddiwr yn ystod teyrnasiad Edward III a'r cefndir yw gwrthryfel yng Nghymru.
Y sgriptiwr yw Kurt Sutter greodd y gyfres Sons Of Anarchy.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £30m i gefnogi saethu ffilm a drama deledu yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.
Y gobaith yw y bydd yn cynhyrchu £90m ar gyfer yr economi.