'Angen cynyddu nifer ACau o 60 i 80'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Lywydd y Cynulliad wedi dweud y dylid ethol 20 o ACau ychwanegol yn ystod etholiad y Cynulliad yn 2016.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas bod consensws yn cefnogi cynyddu nifer yr ACau o 60 i 80.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC y dylid cyflwyno deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd yn fuan ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
"Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni gael 80 o aelodau, gan wneud hynny cyn etholiad nesaf y Cynulliad.
"Does dim rheswm pam na ddylwn ni wneud hynny gan ddeddfu i'r perwyl hwnnw yn fuan yn oes y senedd newydd yn San Steffan".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2014