Camerâu newydd yr M4 yn dal 4,500 yn goryrru

  • Cyhoeddwyd
M4

Cafodd bron i 4,500 o yrwyr eu dal yn goryrru gan gamerâu cyflymdra newydd ar hyd darn o'r M4 ger Port Talbot.

Fe gafodd y camerâu cyflymdra sydd yn mesur cyfartaledd cyflymder eu gosod ym mis Ionawr ar hyd dwy filltir o'r draffordd, ac fe gafodd rhai oedd yn gor-yrru ddirwyon o £100.

Ar gyfartaledd fe gafodd ychydig yn llai na 80 o yrwyr y dydd eu dal yn ystod y ddau fis cyntaf, gyda'r ffigyrau yn cynyddu ar benwythnosau.

Dyma'r camerâu cyntaf o'u math i gael eu gosod ar yr M4 yng Nghymru, ac yn ystod y cyfnod prawf cyn y Nadolig fe gafodd 700 o yrwyr eu dal.

'Siomedig'

Yn ôl Chris Hume o Bartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru Gan Bwyll: "Mae'n siomedig i weld ar gyfartaledd fod 80 gyrrwr y dydd yn dangos diffyg ymwybyddiaeth o gyfyngderau cyflymder gan roi bywydau mewn perygl, yn enwedig o gofio faint o sylw mae'r camerâu yn y lleoliad yma wedi ei gael gan y cyfryngau, a'r gwaith yr ydym wedi ei wneud yn y gymuned.

"Mae goryrru a chyflymder amhriodol yn parhau i fod yn ffactor mewn gwrthdrawiadau, marwolaethau cysylltiedig, ac yn yr achos hwn mae'n cyfrannu at draffig o amgylch Cyffordd 40 a 41."

Caiff unrhyw un sydd yn cael eu dal yn gor-yrru hyd at gyflymder arbennig y cyfle i fynychu cwrs goryrru ar gost o £85, a ni fyddan nhw'n derbyn pwyntiau ar eu trwyddedau. Bydd yr arian yn mynd at gynnal y cyrsiau ac at ariannu diogelwch ffyrdd.

Y dewis arall i yrwyr ydi derbyn £100 o ddirwy a thri phwynt ar eu trwyddedau. Mae'r BBC wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am yr effaith y mae'r camerâu wedi eu cael ar lif traffig yn yr ardal.