Cofiwch Tryweryn?
- Cyhoeddwyd
Mae Dr Meic Stephens yn adnabyddus fel awdur a beirniad llenyddol. Ond efallai nad yw cymaint ohonoch chi'n gwybod mai fe hefyd helpodd i sgwennu'r slogan eiconig 'Cofiwch Dryweryn' ar ochr craig ger Llanrhystud?
Mae Meic yn dweud hanes y noson yr aeth ef, llond car o bobl (a phot o baent!) i greu 'chydig o hanes:
'Dulux' a chamdreiglo
Paentiais y slogan 'Cofiwch Tryweryn' (heb ei dreiglo) yn oriau mân rhyw noson dywyll yn ystod Hydref 1963 neu 1964. Defnyddiais frwsh bach a thun o baent gwyn 'Dulux'. Rwy'n ffaelu bod yn sicr am y flwyddyn na'r dyddiad cywir oherwydd nid oes nodyn am y cyrch yn fy nyddiadur - am resymau amlwg.
Ond galla'i fod yn siwr am bwy oedd yn y car gyda fi: y darpar gyfreithiwr, Rodric Evans. Yn ei gar ef roeddem wedi teithio o Ferthyr Tydfil i Sir Aberteifi.
Roedd Rod a fi ymhlith y dyrnaid o drigolion Garth Newydd, oedd yn rhyw fath o kibbutz ar gyfer Pleidwyr ifanc yn y de-ddwyrain. Ein flying column ni oedd yn gyfrifol am baentio sloganau ar waliau trwy gydol y Cymoedd.
Yr un hyn ger Llanrhystud, tua milltir i'r gogledd o'r pentref, oedd y slogan mwyaf trawiadol o bell ffordd. Ar wal hen ysgubor oddi ar y brif ffordd. Hoff fangre cariadon, llecyn delfrydol, wir.
"Stori druenus Cwm Celyn"
Rhaid bod miloedd o bobol wedi gweld y geiriau herfeiddiol wrth yrru trwy'r Canolbarth dros y blynyddoedd, rhai yn gwbwl gyfarwydd â hanes boddi Capel Celyn i wneud cronfa ddŵr i ddinas Lerpwl (a hynny'n groes i ewyllys pobol Cymru) a rhai eraill (yn enwedig Cymry ifainc) yn cael y manylion am y tro cyntaf. Mae wastad rhywun sydd yn clywed y stori druenus am y tro cyntaf.
Plismon iaith
Rhaid nodi yn y fan hyn nad fy nglanwaith i yw'r geiriau a welir heddiw. Mae dwylo eraill wedi bod yn brysur o dro i dro, er cadw'r slogan yn weladwy. Mae'r rhain yn cynnwys yr ysgolor sydd wedi cywiro 'Tryweryn' i 'Dryweryn', gan ychwanegu 'Sori, Miss!'
Erbyn 1982 pan baentiodd Aneurin Jones ei lun ardderchog o'r wal, roedd y ffurf gywir i'w weld. Yn anffodus, mae rhai eraill wedi ychwanegu eu hatling, gyda geiriau hyll a di-ystyr. Mae angen dipyn bach o ail-baentio eto, yn ôl a ddeallaf.
Cyfrifoldeb pwy?
Mae cadw llygad ar y wal yn rhan o broses eithaf naturiol a mawr obeithio bydd myfyrwyr glew Aberystwyth yn derbyn y cyfrifoldeb am hyn unwaith drachefn.
Boed hynny fel y bo, rwy'n falch iawn o'r slogan. Ond rhyfedd meddwl taw 'eicon cenedlaethol' a 'rhan o'n hetifeddiaeth ddiwylliannol' yw e.
Os felly, ble mae'r gwlatgarwyr sy'n fodlon cyfrannu tuag at y gost o'i ddiogelu rhag crafangau'r tywydd a fandaliaeth? Ble mae'r arian a roddwyd yng nghoffrau Cyngor y Plwyf?
Ydy e'n wir fod perchennog yr ysgubor, tyddynwr Troed-y-rhiw, yn mynnu gofyn crocbris am y wal? Oes bwriad gan Sain Ffagan i ail-osod y wal yn yr Amgueddfa?
Mae gen i ddiddordeb yn y cwestiynau hyn, wrth gwrs. Wedi'r cyfan, dyma fy natganiad enwocaf, fy ngherdd huotlaf, fy ngweithred boliticaidd bwysicaf.