Arwyr 1958 i roi hwb yn Israel?

  • Cyhoeddwyd
Cymru 1958Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru cyn herio Israel ym Mharc Ninian yn 1958

Wrth i Gymru baratoi i wynebu Israel yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewro 2016, Owain Llŷr sy'n edrych yn ôl ar gêm arwyddocaol arall rhwng y ddwy wlad.

Cwpan y Byd 1958

Heb yn wybod i sawl un mae Israel yn barod wedi chwarae rhan holl-bwysig yn hanes tîm pêl-droed Cymru. Cwpan y Byd Sweden 1958 ydi'r unig dro i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol. A diolch i Israel mewn ffordd y cawson nhw'r cyfle i wneud hynny.

Heb fanylu'n ormodol roedd Israel wedi ennill eu grŵp rhagbrofol oherwydd bod gwledydd eraill yn gwrthod chwarae yn eu herbyn am resymau gwleidyddol, yn fwy penodol argyfwng Suez yn 1956. Ond fe benderfynodd FIFA fod hyn yn ffordd annheg o gyrraedd Cwpan y Byd, felly roedd yn rhaid iddyn nhw chwarae mewn gêm ail gyfle.

Roedd Cymru wedi gorffen yn yr ail safle yn eu grŵp rhagbrofol y tu ôl i'r Weriniaeth Siec. Bryd hynny dim ond enillwyr y grŵp oedd yn camu ymlaen i'r rowndiau terfynol.

Enwau mewn het

Oherwydd bod FIFA angen gwlad i chwarae yn erbyn Israel fe gafodd enwau'r 8 tîm orffennodd yn ail yn eu grŵp yn Ewrop eu rhoi mewn het.

Mae'n debyg mai Gwlad Belg oedd yr enw cyntaf i ddod allan ond iddyn nhw wrthod y cyfle i chwarae oherwydd y sefyllfa wleidyddol. Cymru oedd yr enw nesaf i gael eu tynnu allan ac roedden nhw'n ddigon hapus i gael ail gyfle i gyrraedd y rowndiau terfynol.

Jimmy Murphy oedd rheolwr y crysau cochion ar y pryd ac ym mis Ionawr 1958 fe deithion nhw i Tel Aviv gan ennill y cymal cyntaf 2-0 diolch i goliau Ivor Allchurch a Dave Bowen.

Cysgod trychineb

Roedd dyddiad yr ail gymal yn peri problem i Murphy. Swydd ran amser oedd ei swydd fel rheolwr Cymru. Roedd o hefyd yn is-reolwr i Matt Busby yn Manchester United.

Ar yr un noson â'r ail gymal yng Nghaerdydd roedd United yn chwarae oddi cartref yn Red Star Belgrade yng Nghwpan Ewrop.

Fe ddywedodd Busby wrth Murphy am aros efo Cymru. Fe enillon nhw 2-0 efo Allchurch yn sgorio eto. Cliff Jones sgoriodd y gôl arall. Ac roedd Cymru ar eu ffordd i rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes.

Cymru v Israel
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na ddathlu mawr wrth i Gymru ennill eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn eu hanes

Pan ddychwelodd Murphy i Fanceinion doedd carfan United ddim yno i'w gyfarch. Roedd rhai ohonyn nhw wedi eu lladd mewn damwain awyren ym Munich. Roedd eraill yn ddifrifol wael mewn ysbyty yn Yr Almaen. Oni bai am yr ail gymal yn erbyn Israel byddai Murphy wedi bod ar yr un awyren.

Creu argraff yn Sweden

Fe gyrhaeddodd Cymru rownd 8 olaf Cwpan y Byd cyn colli 1-0 yn erbyn Brasil a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth. Chwaraewr 17 oed o'r enw Pelé sgoriodd y gôl fuddugol (efallai bod rhai ohonoch chi wedi clywed amdano!)

Yn anffodus i Gymru doedd eu chwaraewr gorau sef John Charles ddim ar gael i chwarae gan iddo gael ei anafu yn y gêm flaenorol yn erbyn Hwngari. Pwy a ŵyr beth fyddai wedi digwydd petai Charles wedi bod yn holliach?

Pwy ydi'r Pelé 'ma?
Disgrifiad o’r llun,

Pwy ydi'r Pelé 'ma?

Mae yna lot fawr o amser wedi mynd heibio ers i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol. Mae sawl tîm a sawl rheolwr wedi dod yn agos i ail adrodd llwyddiant Charles, Allchurch a Jones. Ond beth am y genhedlaeth bresennol?

Her yn Haifa

Mae Bale, Ramsey, Allen a gweddill y tîm wedi cael dechrau gwych i rowndiau rhagbrofol Ewro 2016. Ond am her sy'n eu hwynebu nhw yn Haifa nos Sadwrn. Israel sydd ar frig y grŵp yn erbyn Cymru sy'n ail. Israel heb os nac oni bai ydi'r tîm i'w trechu bellach.

Petai Cymru yn gallu ennill yna mi fydden nhw'n cymryd cam enfawr tuag at y rowndiau terfynol yn Ffrainc mewn blwyddyn a hanner. Mae'n rhyfedd iawn, ar ôl yr hyn ddigwyddodd yn 1958, mai Israel ydi'r gwrthwynebwyr.

Cymru v CyprusFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae buddugoliaeth Cymru yn erbyn Cyprus wedi codi gobeithion y gallai'r tîm cenedlaethol gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016

Dilynwch y gêm yn fyw ar Cymru Fyw, Nos Sadwrn 28 Mawrth o 16:30

Mae sylwebaeth hefyd i'w chael ar Camp Lawn, BBC Radio Cymru am 17:00