BBC Radio 2 i anrhydeddu Merêd yn eu Gwobrau Gwerin
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC wedi cyhoeddi mai'r diweddar Dr Meredydd Evans fydd yn derbyn Gwobr Traddodiad Da yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 eleni.
Bu farw Dr Evans, oedd yn cael ei adnabod fel Merêd, ym mis Chwefror yn 95 mlwydd oed.
Mae'r wobr yn cael ei gyflwyno i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i gerddoriaeth werin yn y DU.
Oherwydd ei gyfraniadau amrywiol fel canwr, hanesydd, darlledwr ac ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg, roedd yn ffigur arwyddocaol, uchel ei barch a phoblogaidd.
Bu'n recordio gyda label Sain ac fe wnaeth albwm clasurol o ganeuon Cymraeg ar gyfer y label Americanaidd, Smithsonian Folkways, yn ystod y 50au.
Roedd yn Bennaeth Adloniant Ysgafn gyda BBC Cymru, gan weithio y tu ôl ac o flaen y camera, ac roedd yn gasglwr pwysig o ganeuon Cymraeg traddodiadol.
Fe fydd yn cael ei anrhydeddu ar ôl ei farwolaeth a bydd teyrnged arbennig iddo'n cael ei pherfformio gan 10 Mewn Bws - cynllun welodd deg o gerddorion ifanc o Gymru yn teithio mewn bws ledled y wlad mewn ymgais i ail-ddehongli canu Cymreig traddodiadol.
Bydd dwy wobr cyflawniad oes hefyd yn cael eu cyflwyno i'r cerddorion enwog, Yusuf / Cat Stevens a Loudon Wainwright III yn y seremoni fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ar 22 Ebrill.