Gwrthdrawiad: Teyrngedau i blismones
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi ei rhoi i blismones fu farw wedi iddi gael ei tharo gan fws yng nghanol dinas Abertawe ddydd Mawrth.
Y blismones oedd Louise Lucas, 41 oed, sarjant oedd ddim ar ddyletswydd.
Bu gwrthdrawiad rhwng y bws rhif X11 a'r fenyw ychydig cyn 11:25.
Cafodd hi ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys lle bu farw'n ddiweddarach, ac fe gafodd ei merch wyth oed driniaeth am fân anafiadau.
Roedd y fam i dri yn gweithio yng Ngorsaf Heddlu Llanisien yng Nghaerdydd.
Rhoi teyrnged
Mae cyd-weithwyr wedi rhoi teyrngedau iddi ar wefannau cymdeithasol.
Mi wnaeth adran ddwyreiniol Heddlu De Cymru drydar bod "cymunedau Llanisien, Rhiwbeina, a Thornhill wedi colli plismones a oedd wirioneddol yn malio".
Cafodd y teimladau eu hadlewyrchu gan Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, wnaeth drydar ei bod hi'n golled enfawr i'w theulu, ei llu a'r gymuned.
Dywedodd Richard Jones, prif swyddog arbennig gyda Heddlu Gwent, ei bod hi'n "fenyw arbennig" a hynny wedi iddo weithio gyda hi ar sawl achlysur.
Dywedodd Richard Lewis, uwch-swyddog gyda heddlu tiriogaethol Heddlu De Cymru, bod y farwolaeth "yn drist ofnadwy".
Mae Steve Trigg, Cadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu, wedi dweud ei fod yn ei hadnabod hi am nifer o flynyddoedd.
'Llawer o barch'
"Roedd llawer o barch iddi. Mae hon yn golled fawr i'w theulu, ei ffrindiau a'r heddlu.
"Rydyn ni'n meddwl am ei theulu ar yr adeg anodd hon."
Mewn datganiad, dywedodd y Prif Gwnstabl Peter Vaughan: "Roedd Louise yn blismones wych oedd yn cael ei pharchu gan bawb ac wedi ymroi'n llwyr i'w gwaith yn gwasanaethu cymunedau De Cymru.
"Mae'r teyrngedau niferus sydd wedi eu rhoi i Louise yn dangos pa mor uchel ei pharch oedd hi, nid yn unig ymysg ei chydweithwyr yn yr heddlu, ond hefyd ymysg y gymuned ehangach."
'Mesurau diogelwch'
Dywedodd y cynghorydd Mark Thomas, aelod cabinet Cyngor Abertawe dros yr amgylchedd a thrafnidiaeth: "Ar ran y Cyngor hoffwn gydymdeimlo gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Louise Lucas.
"Rydym yn cydweithio gyda'r heddlu ar eu hymchwiliad i achos y ddamwain.
"Yn y gorffennol, rydym wedi cyflwyno nifer o fesurau diogelwch ychwanegol ar hyd Ffordd y Brenin, gan gynnwys cyfyngiad cyflymder o 20mya ac arwyddion ar gyfer cerddwyr.
"Nawr byddwn ni'n cymryd camau ar unwaith i wella diogelwch cerddwyr drwy gyflwyno rhwystrau dros dro ar hyd y llain ganol.
"Byddwn ni hefyd yn cynnal trafodaethau brys gyda'r heddlu a chwmnïau bysiau er mwyn ystyried mesurau diogelwch pellach a all, yn ddibynnol ar ddod i gytundeb, gynnwys newid llwybrau bysiau ac, o bosib, newid cyfeiriad y traffig ar Ffordd y Brenin.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni bysiau First Cymru: "Nid ydym eto'n gwybod union achos y gwrthdrawiad ond fe fydd ymchwiliad llawn.
"Mae ein tîm ni'n cydweithio gyda'r heddlu ar hyn o bryd ..."
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, gan apelio ar i unrhyw un gydag unrhyw wybodaeth alw 101.