Kizzie, BB Aled a Geraint yn cyflwyno cyfres i blant

  • Cyhoeddwyd
Llond CegFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynwyr rhaglen newydd Llond Ceg fydd Kizzy Crawford, Aled Haydn Jones a Geraint Hardy

Mae S4C wedi cyhoeddi sut y bydd gwasanaeth Stwnsh i blant a phobl ifanc yn edrych ar ei newydd wedd.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei lansio ar-lein ac ar y sgrin ddydd Llun, 13 Ebrill.

Mae'n cynnwys apiau a fideos egscliwsif yn ogystal â rhaglenni teledu ac fe fydd modd gweld y cynnwys ar ffonau clyfar, tabledi, cyfrifiaduron neu deledu.

Bydd Stwnsh yn cael ei ddarlledu rhwng 17:00 a 18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, a bydd rhaglenni Stwnsh yn parhau bob bore Sadwrn ond yn defnyddio dolenni graffeg yn hytrach na darlledu o stiwdio.

Rhan o'r arlwy newydd yw cyfres newydd o'r enw Llond Ceg fydd yn cael ei chyflwyno gan Aled Haydn Jones, Geraint Hardy a'r gantores Kizzy Crawford.

'Symud gyda'r oes'

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, Sioend Wyn Roberts: "Fe fydd Stwnsh yn cynnig gwasanaeth digidol ar raddfa fwy fyth ac mae delwedd a brand y gwasanaeth yn adlewyrchu hynny. Rydyn ni wedi gwrando ar blant a phobl ifanc Cymru ac mae rhaid i bethau symud gyda'r oes.

"Mae mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn defnyddio cyfarpar fel ffonau clyfar a thabled a bydd rhaglenni'n eu tynnu'n naturiol i fyd digidol Stwnsh gyda dewis o apiau, gemau a rhaglenni ecsgliwsif."

Bydd newidiadau hefyd i wasanaeth Cyw i blant iau ac o 13 Ebrill bydd cyflwynwraig newydd sef Catrin Herbert.

Lansiwyd Cyw yn 2008 a Stwnsh yn 2010 gyda'r naill yn anelu at blant hyd at chwech oed a'r llall at blant 7-13 oed.