Cadw traddodiadau'r Pasg
- Cyhoeddwyd
I rai ohonom ni bydd Gŵyl y Pasg yn gyfle i ymlacio yng nghwmni'n teuluoedd, ond i rai mae'n gyfnod prysur tu hwnt. Ac felly y bydd hi i David Davies, organydd Cadeirlan Caerwysg,
Cadw traddodiad
Yn gyffredinol mae presenoldeb ein cymunedau Cristnogol a'n traddodiau Cristnogol yn gwanhau, wrth gwrs, ac, er bod sawl yn edifar am hyn, dyma un o ffeithiau bywyd mewn cymdeithas lle nad yw wyneb cyhoeddus y ffydd Gristnogol bellach mor amlwg.
Mae unrhyw un sydd yn gweithio yn yr Eglwys Anglicanaidd yn ymwybodol o'r angen i weithredu yn galed i sicrhau na fydd ein traddodiadau yn diflannu'n llwyr.
Yn ystadegol, mae'n wir mai cerddoriaeth eglwysig yw un o'r cyfryngau sydd â'r gallu i gynnig rhywbeth ysbrydol i bobl heb eu gorfodi i gydsynio â daliadau crefyddol.
Tymhorau eglwysig
Efallai elfen bwysicach yn ein bywyd Anglicanaidd yw rhythm. Nid rhythm cerddorol, ond rhythm ein calendr eglwysig. Ond mae cyfoethogrwydd hanes cerddoriaeth eglwysig yn asgwrn cefn i bopeth yr ydym yn ei wneud.
I mi, fel cerddor eglwysig, 'rwy'n gweld y tymhorau eglwysig o safbwynt tymheredd, ac felly mae'n bwysig i'r gerddoriaeth i gydweddu â thymheredd yr achlysur.
Mae yna ddigon o achlysuron lle mae dramâu'r storïau Beiblaidd yn rhoi'r cyfle i ni ganu cerddoriaeth addas, cyffrous ac emosiynol.
Y daith i Gaersalem
Ar Sul y Blodau, er enghraifft -wythnos nion cyn Sul y Pasg - mae'r côr a'r gynulleidfa yn ymgynnull ben bore yn Eglwys St Pancras ynghanol canolfan siopa Caerwysg.
Yno, fe fydd y palmwydd yn cael eu bendithio, a phawb wedyn yn ailddeddfu gorymdaith yr Iesu i Gaersalem wrth i ni gerdded strydoedd y ddinas tuag at yr Eglwys Gadeiriol. Canwn yr emyn grymus hwn wrth i ni fynd:
"Ymlaen! Ymlaen! marchoga'n awr,
clyw groch Hosanna'r dyrfa fawr;
O addfwyn Iesu, dos ymlaen
dros gangau gwydd a gwisgoedd taen."
Mae'r offeiriaid yn gwisgo gwisgoedd lliwgar, a phawb yn llefaru "Hosanna yn y goruchafion! Bendigedig yw'r hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd. Hosanna yn y goruchaf!"
Yr Wythnos Sanctaidd
Ond, ar ôl cyrraedd y Gadeirlan, mae'r tymheredd yn newid unwaith eto, ac, yn ystod canu'r Kyrie Eleison, mae'r offeiriaid yn newid eu gwisg o goch i borffor.
Nid mynediad buddugoliaethus bellach, ond dechreuad yr Wythnos Sanctaidd. Mae'r gwasanaeth yn gorffen mewn tawelwch, y gynulleidfa'n canu'n ddigyfeiliant yr emyn anfarwol:
"Drop, drop slow tears,
and bathe those beauteous feet,
which brought from heaven
the news and Prince of Peace."
Diwedda'r Wythnos Sanctaidd gyda'r Triduum, sef Dydd Iau Cablyd, Dydd Gwener y Groglith a Noswyl y Pasg.
Wrth i ni ganu'r anthem Ubi caritas et amor, daw aelodau o'r gynulleidfa i'r allor lle bydd yr offeiriaid yn golchi eu traed, yn symbolig o'r hyn a wnaeth yr Iesu i'w ddisgyblion.
Ar Ddydd Gwener y Groglith mae'r litwrgi a'r canu corawl yn syml, yn dawel ac yn drist.
Mae'r groes yn cael ei chodi yn uchel wth i'r offeiriad lefaru geiriau o'r Lladin "Ecce lignum crucis, in quo salus mundi pependit. Venite adoremus!" ('Dyma pren y groes lle crogwyd Iachawdwriaeth y byd. Deuwch i addoli!')
Mae yna awyrgylch o anobaith a gwacter yn yr Eglwys Gadeiriol ar ôl y gwasaneth hwn. Yn erbyn y cefndir hwn mae'r côr yn canu'r oratorio o waith enwog John Stainer, sef y Crucifixion.
Gobaith yr Atgyfodiad
I mi, y gwasanaeth ar Noswyl y Pasg yw'r un mwyaf cyffrous yn ystod cyfnod y Pasg.
Dyma grisialu gobaith yr atgyfodiad, gyda'r tân newydd yn cael ei gynnau, a channwyll y Pasg yn goleuo'r tywyllwch wrth i ni ganu 'Lumen Christi', sef 'Goleuni Crist'.
Ar ôl hyn, cenir yr 'Exsultet' gan y ddiacon, darn sylweddol o gerddoriaeth sydd yn uno'r ddaear a'r nef ym moliant y bydysawd.
Ac, o'r diwedd, mae'r gair 'Haleliwia' yn ymddangos wrth i bawb yn y Gadeirlan cyfarch eu gilydd yn y Groeg: 'Christos anesti! Christos alithos anesti!', hynny yw, 'Atgyfododd Crist! Mae Crist wedi atgyfodi yn wir!'
Mae clychau'r eglwysi yn canu, mae'r organ yn seinio'n orfoleddus, a'r gynulleidfa yn canu nerth eu pennau 'Heddiw cododd Crist o'r bedd: Haleliwia!'
Mae'n amser prysur a diddorol; mae'n gallu herian hefyd, ond mae'n wir i ddweud bod amrywiaeth y swydd yn fy mywiogi.
Braf yw gwybod fy mod yn chwarae rhan ym mywyd eang yr Eglwys: Deo gratias - diolch a fo i Dduw!