Gorwelion newydd

  • Cyhoeddwyd
Gorwelion

Mae 'Gorwelion' yn brosiect ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor y Celfyddydau i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru.

Ar ôl i 12 o artistiaid gael eu cefnogi'r llynedd, mae enwau'r artistiaid fydd yn elwa yn 2015 wedi eu cyhoeddi.

Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion, sy'n datgelu'r cyfan i ddarllenwyr Cymru Fyw:

Datgelu cyfrinach

Heddiw ni'n cyhoeddi criw newydd o fandiau Gorwelion, ac mae'n anodd credu fod blwyddyn wedi mynd heibio yn barod. Dwi'n un ofnadwy am gadw cyfrinach, ond ni wedi bod yn gweithio yn dawel bach efo'r bandiau newydd ers dechrau mis Mawrth.

O'r diwedd cawn weiddi o'r tô bod bandiau newydd ar fin mynd ar dramp dros Gymru.

Mae'r flwyddyn wedi dechrau yn barod. Penwythnos diwethaf aethom i wersyll yn y Gorllewin gwyllt, lle o'r enw Fforest, i ddod i nabod y bandiau yn well, tynnu lluniau, trafod rhai o elfennau Gorwelion, a chyfle i gwrdd â chymysgu efo'r criw newydd.

Roedd hi'n benwythnos stormus ofnadwy, ond difyr oedd dod i nabod yr aelodau yn well.

Nes i'm cysgu winc ar y noson gyntaf, gan imi feddwl fod y babell am gwympo lawr yn y gwynt, hynny a sŵn aflafar drymiau yn hwyr i'r nos!

Yn ystod y dydd roedd siaradwyr wedi eu trefnu gan gynnwys Gareth Iwan yn trafod perthynas BBC Radio Cymru a'r bandiau, Bridget Curnow o BBC Radio Wales, Lisa Matthews o'r Cyngor Celfyddydau a Dai Davies, cyn reolwr The Stranglers a llu o fandiau eraill.

Roedd gweithdai arbennig am y diwydiant cerddorol hefyd; ochr dechnegol o chwarae'n fyw, PR, A&R, a trefnydd gigiau cyson. Felly ni wedi cael 'Bass Camp' yn barod, a mae pawb yn barod i fynd erbyn hyn.

A heddiw, ni'n cyflwyno'r bandiau i'r cyhoedd. Llongyfarchiadau mawr i'r 12 artist canlynol:

Aled Rheon - Mae'r canwr gwerin o Gaerdydd wedi ei gymharu â chantorion megis Nick Drake a Meic Stevens.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Rheon ymhlith 12 o artistiaid fydd yn cael cefnogaeth gan brosiect Gorwelion eleni

Cold Committee - Band pop trydanol gyda phedwar aelod o Brestatyn a Rhyl

•Cut Ribbons - Band indie pop o Lanelli sy'n teithio'n aml ac sydd wedi derbyn cefnogaeth frwdfrydig gan Radio 1, XFM, Radio Wales, a'r wasg gerddoriaeth.

Dan Bettridge - Canwr-gyfansoddwr o Aberogwr gyda llais melfed a chaneuon torcalonnus

Delyth McLean - Artist ifanc dwyieithog o Ferthyr Tydfil wnaeth elwa ar brosiect datblygu'r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc y llynedd.

Hannah Grace - Canwr-gyfansoddwr jazz mentrus o Benybont sydd yn astudio yn y Coleg Cerdd a Drama.

Disgrifiad o’r llun,

HMS Morris - Balch o fod yn rhan o brosiect Gorwelion

HMS Morris - Mae'r band indie pop yma o Gaerdydd a Llanymddyfri. Y cerddor Heledd Watkins yw wyneb y band ac maen nhw eisoes yn enwau adnabyddus ar y sîn gigiau yn ne Cymru.

Mellt - Band pync roc melodig o Aberystwyth sy'n ffefrynnau ymhlith gwrandawyr BBC Radio Cymru

Peasant's King - Band roc pum aelod o Bontypridd sy'n mynd ar daith Brydeinig am y tro cyntaf ym mis Ebrill.

Violet Skies - Cantores sinematig, synhwyrus ac atgofus o Gas-gwent sydd eisoes wedi dal sylw Jamie Cullum ar Radio 2.

Yr Eira - Band pop ifanc, electronig, bywiog o Fangor sy'n dilyn yn ôl troed ffefrynnau'r sin Gymraeg, Sŵnami.

Y Reu - Band indie roc pum aelod o Ddyffryn Nantlle a Chaernarfon sydd ag enw da am berfformiadau byw gwefreiddiol .

Disgrifiad o’r llun,

Y Reu yn gobeithio ehangu eu Gorwelion eleni!

Dwi'n siŵr byddwn ni'n gweld yr artistiaid yma yn cael cyfle i ehangu eu gorwelion, i gigio yn galed, i chwarae mewn llefydd anghyffredin, ac yn gyffredinol gwneud y mwyaf o'r holl gyfleoedd.

Fe fyddwn ni'n mynd a llwyfan Gorwelion i nifer o wyliau eto eleni.

Am wybodaeth gyson o'r digwyddiadau ewch i'n tudalen Facebook, dolen allanolneu dilynwch ein cyfrif Twitter @horizonscymru.