Cyhoeddi artistiaid Gorwelion 2015

  • Cyhoeddwyd
Gorwelion

Mae BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi enwau'r 12 artist newydd i fod yn rhan o brosiect Gorwelion eleni.

Bellach yn ei ail flwyddyn, nôd Gorwelion yw datblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol newydd yng Nghymru, a chefnogi a hyrwyddo talent gerddorol i gynulleidfaoedd ehangach.

Mae Gorwelion yn bartneriaeth dwy flynedd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu talent gerddorol newydd ac i roi llwyfan iddynt i gyrraedd cynulleidfaoedd. Cafodd yr artistiaid eu dewis gan banel o gynrychiolwyr o'r bartneriaeth ac o'r sector gerddoriaeth ehangach.

Derbyniwyd dros 300 o geisiadau gan artistiaid am le ar y cynllun.

Mewn blog arbennig i Cymru Fyw, bu Bethan Elfyn, rheolwr prosiect Gorwelion, yn rhoi gwybod mwy i ni am y criw eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Iwan Fôn o'r Reu, sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o'r cynllun

Y 12 artist fydd yn rhan o Gorwelion fydd:

  • Aled Rheon - Mae'r canwr gwerin o Gaerdydd wedi ei gymharu â chantorion megis Nick Drake a Meic Stevens.

  • Cold Committee - Band pop trydanol gyda phedwar aelod o Brestatyn a Rhyl

  • Cut Ribbons - Band indie pop o Lanelli sy'n teithio'n aml ac sydd wedi derbyn cefnogaeth frwdfrydig gan Radio 1, XFM, Radio Wales, a'r wasg gerddoriaeth.

  • Dan Bettridge - Canwr-gyfansoddwr o Aberogwr gyda llais melfed a chaneuon torcalonnus

  • Delyth McLean - Artist ifanc dwyieithog o Ferthyr Tydfil wnaeth elwa ar brosiect datblygu'r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifanc y llynedd.

  • Hannah Grace - Canwr-gyfansoddwr jazz mentrus a welodd un o'i chaneuon yn cael ei gynnwys yn y ffilm 'Pride' yn ddiweddar.

  • HMS Morris - Mae'r band indie pop yma o Gaerdydd a Llanymddyfri. Y cerddor Heledd Watkins yw wyneb y band ac maent eisoes yn enwau adnabyddus ar y sin gigiau yn ne Cymru.

  • Mellt - Band pync roc melodig o Aberystwyth sy'n ffefrynnau ymysg gwrandawyr BBC Radio Cymru.

  • Peasant's King - Band roc pum aelod o Bontypridd sy'n mynd ar daith Brydeinig am y tro cyntaf ym mis Ebrill.

  • Violet Skies - Cantores sinematig, synhwyrus ac atgofus o Gas-gwent sydd eisoes wedi dal sylw Jamie Cullum ar Radio 2.

  • Yr Eira - Band pop ifanc, electronig, bywiog o Fangor sy'n dilyn yn ôl troed ffefrynnau'r sin Gymraeg, Sŵnami.

  • Y Reu - Band indie roc pum aelod o Ddyffryn Nantlle a Chaernarfon sydd ag enw da am berfformiadau byw gwefreiddiol .

Dywedodd Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Ry'n ni'n edrych ymlaen unwaith eto i gefnogi grŵp o gerddorion drwy Gorwelion 2015. I'r artistiaid, mae'n flwyddyn o gyfleoedd i ddatblygu ac i bawb arall sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth newydd, mae'n ddarlun o'r hyn sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.

"Rydym ni'n edrych ymlaen at ddilyn eu hymdrechion drwy'r gwyliau, digwyddiadau ac ar y teledu, radio ac ar-lein dros y 12 mis nesaf."

Disgrifiad o’r llun,

Lewys a Guto o'r Eira yn dilyn oelion troed eu brodyr, gan fod brodyr hyn y ddau yn aelodau o un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, Yr Ods

Dywedodd Jason Mohammad, cyflwynydd ar BBC Radio Wales fod y "prosiect yn elwa'r ddwy ochr; sylw i'r artistiaid a sŵn ffres i'n rhaglenni ni. Ro'n i'n mwynhau gwrando ar gymaint o'r artistiaid ond un o'm ffefrynnau oedd Houdini Dax gan iddyn nhw deithio i India a recordio yna ar gyfer Radio Wales.

"Rwyf yn edrych ymlaen at gyfarfod y 12 artist newydd ac rwy'n siŵr y caf fy machu gan yr amrywiaeth o gerddoriaeth a gynigir gan Gorwelion wrth i ni fynd trwy'r flwyddyn."

Bydd yr artistiaid yn cael cynnig perfformio ar lwyfan mewn digwyddiadau ledled Cymru a thrwy wasanaethau radio cenedlaethol BBC Cymru - BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales - gan ddechrau gyda Focus Wales ar Ebrill 26 ac wedyn yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth ar Fai 1.

Fe fydd artistiaid Gorwelion yn 2015 yn elwa drwy nifer o gyfleoedd unigryw, gan gynnwys y cyfle i chwarae yn nigwyddiadau BBC Cymru drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â sesiwn recordio yn BBC Maida Vale.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Rheon eisoes wedi recordio sesiynau i C2 BBC Radio Cymru