Dysgwyr y Flwyddyn 2025: Leanne Parry

Mae Leanne yn gweld ei llwyddiant o gyrraedd y rownd derfynol fel "dathliad mawr" o ymdrech pob dysgwr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Leanne Parry yn dweud mai genedigaeth ei mab oedd un o'r prif resymau y dechreuodd ddysgu Cymraeg.
Mae'n un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle yr wythnos hon i gwrdd â'r ymgeiswyr.
Dywedodd Leanne, sy'n wreiddiol o'r Rhyl a bellach yn byw ym Mhrestatyn, ei bod wedi "sylwi pa mor bwysig ydi'r iaith i'r plant pan ges i fy mab Wren".
Mae hi wedi bod yn dysgu ers rhyw bum mlynedd, a phan roedd Wren yn fabi roedden nhw'n mynychu llawer o grwpiau mam a babi cymunedol.
"Roeddwn i'n cael sgwrs efo un o'r arweinyddion yn y grŵp a gofynnodd hi os oeddwn i wedi ystyried anfon Wren i ysgol Gymraeg," meddai.
"O'n i jesd yn meddwl wel ie, 'cer amdani', a dyna pham 'nes i benderfynu dechrau [dysgu Cymraeg] hefyd, i gefnogi a helpu fy mab."
Dysgwyr y Flwyddyn 2025: Leanne Parry
Erbyn hyn, mae Leanne yn defnyddio ei Chymraeg yn ei gwaith, ac yn 2024 enillodd deitl 'Dysgwr y Flwyddyn Betsi Cadwaladr lefel canolradd'.
Mae Leanne yn ffisiotherapydd niwrolegol yn ysbytai Glan Clwyd a Bae Colwyn, a dywedodd y gallai ysbytai fod yn llefydd "pryderus iawn" i bobl.
Ychwanegodd fod cynnig croeso yn y Gymraeg yn helpu pobl i ymlacio, a bod hynny yn bwysig iawn.
"I ddechre mae'n anodd iawn, ond mae lot o apps i ddechre dysgu Cymraeg," meddai.
"'Nes i ddechre dysgu efo 'Say Something in Welsh' a 'Duolingo,'
"Dwi'n ffeindio apps yn help mawr. Os oes gennych chi ddeg munud bob dydd i wneud rhywbeth yn y Gymraeg, mae'r apps yn wych," meddai.

Mae Haf Parry (dde) yn hyfforddi Leanne (chwith) yn wythnosol, ac wedi gwirioni clywed am ei llwyddiant
Un sydd wedi bod yn rhan bwysig o daith dysgu Cymraeg Leanne yw Haf Parry, sy'n rhedeg Grŵp Popeth Cymraeg yn lleol.
"O'n i'n gwybod o'r diwrnod cyntaf 'nes i gwrdd â Leanne... bod 'na rywbeth arbennig amdani hi, ei chymeriad hi, a'i gallu hi i fod yn feistr ar yr iaith Gymraeg."
Ychwanegodd ei bod hi "wedi dod yn aelod ffyddlon - mewn ffordd yn ddirprwy i mi o fewn y grŵp dwi'n gynnal bob wythnos".
Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, 6 Awst, gan dderbyn tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.
Fe fydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl