Dechrau ar broses i ethol Archesgob newydd Cymru

Andrew John
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broses wedi cychwyn o ethol Archesgob Cymru newydd yn dilyn ymddeoliad Andy John

  • Cyhoeddwyd

Mae'r broses i ethol Archesgob newydd i Gymru wedi dechrau.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad Andrew John ei fod yn ymddeol ar ôl i ddau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon am ddiogelu ac ymddygiad gwael yng Nghadeirlan Bangor.

Bydd ei olynydd yn cael ei ddewis o blith esgobion Cymru, a'r person hwnnw fydd y pymthegfed person i hawlio'r teitl.

Mae'r Coleg Etholedig yn cwrdd yng Nghas-gwent a gallai'r broses gymryd hyd at dri diwrnod.

Cyhoeddodd Andy John ei fod yn ymddeol ar unwaith fel Archesgob Cymru fis Mehefin, yn ogystal â chadarnhau y bydd yn ymddeol fel Archesgob Bangor ar 31 Awst.

Roedd hynny'n dilyn cyfnod cythryblus i gadeirlan Bangor, ar ôl i ddau adroddiad sôn am "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", iaith amhriodol ac yfed gormod o alcohol.

Yn fuan wedi'r adroddiadau yma, daeth galwadau ar Andy John, a gafodd ei ethol fis Rhagfyr 2021, i adael ei rôl.

Er nad yw'r adroddiadau wedi eu cyhoeddi'n llawn, does dim awgrym fod yr Archesgob wedi ymddwyn yn amhriodol.

Yn y cyfamser, dywedodd yr Eglwys yng Nghymru eu bod wedi sefydlu grŵp gweithredu er mwyn sicrhau bod y materion a gafodd eu codi yn yr adroddiadau yn cael eu datrys.

Beth yw'r broses?

Er mwyn ethol Archesgob newydd, bydd cyfarfod y coleg etholiadol yn dechrau gyda Chymun yn Eglwys San Pedr, cyn i aelodau'r coleg ddechrau trafodaethau cyfrinachol.

Bydd yr olynydd yn cael ei ddewis o blith y rheiny sy'n gweithredu fel esgobion yn esgobaeth Cymru:

  • Esgob Llanelwy, Gregory Cameron

  • Esgob Mynwy, Cherry Vann

  • Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas

  • Esgob Llandaf, Mary Stallard

  • Esgob Tyddewi, Dorrien Davies

Er mwyn gwneud y penderfyniad, mae pob un o'r chwe esgobaeth yn ethol tri clercol i'r coleg yn ogystal â thri lleygwr, sy'n aelodau o'r gymuned grefyddol ond nid yn rhan o'r clerigwyr.

Yn dilyn trafodaethau, bydd y llywydd yn galw am enwebiadau ac yna bydd yr esgobion sydd wedi eu hethol yn cael eu tynnu o'r trafodaethau.

Mae'n rhaid i un sy'n cael ei enwebu dderbyn dwy ran o dair o bleidleisiau'r coleg er mwyn cael ei ethol yn archesgob.

Os, ar ôl cynnal pleidlais, nad oes unrhyw ymgeisydd yn derbyn y swm angenrheidiol o bleidleisiau, mae'r broses yn ailgychwyn gydag enwebiadau o'r newydd.

Unwaith bydd yr archesgob wedi'i ethol, bydd yn cael ei urddo yn ei gadeirlan gartref yn ddiweddarach.

Pynciau cysylltiedig