Ffrae iaith yr Ardd Fotaneg
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn delio gyda chwyn am arwyddion uniaith Saesneg yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Cafodd sawl cwyn eu gwneud gan fod arwydd uniaith Saesneg ar yr M4 ger yr ardd yn Llanarthne yn Sir Gaerfyrddin.
Un sy'n anhapus am yr arwyddion yw Elspeth Jones sy'n byw ger yr atyniad.
'Yn falch'
Ar raglen y Post Cyntaf dywedodd: "Mae enw'r lle yn dweud yn hollol beth yw e - Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru - ac fel pob sefydliad tebyg dyle fod yn hollol glir ... fod lle'r Gymraeg yn y wybodaeth a'r hysbysebu yn gwbl hanfodol.
"Rydyn ni'n byw mewn ardal Gymraeg ... nid dim ond pobol o ochr draw Clawdd Offa sy'n dod yma, a beth bynnag, mae'r neges mae hyn yn ei roi yn gwbl gyfeilornus ...
"Mae eisiau iddyn nhw werthfawrogi fod lot fawr o dwristied yn falch iawn o weld diwylliant lleol, gan gynnwys iaith leol ..."
Ymwelwyr
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd: "Gallwn gadarnhau fod Comisiynydd y Gymraeg wedi derbyn cwyn am arwyddion Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
"Mae'r gwyn yn cael sylw. Yn sgil hynny ni fyddai'n briodol gwneud unrhyw ddatganiad pellach ar hyn o bryd."
Nid yw'r ardd wedi ymateb hyd yma ond maen nhw wedi dweud bod yr arwydd wedi ei dargedu at ymwelwyr o Loegr.