'Angen denu mwy o ferched i swyddi technoleg'
- Cyhoeddwyd
Gall Cymru gael "dyfodol addawol" yn y sector dechnoleg ond rhaid i gwmnïau ddenu mwy o ferched i adeiladu ar lwyddiant, yn ôl ffigwr blaenllaw yn y diwydiant.
Tim Griffin yw prif weithredwr Dell UK - un o'r cwmnïau mwyaf sy'n gweithredu yn y sector - sy'n cynhyrchu cyfrifiaduron a meddalwedd.
Dywedodd wrth BBC Cymru bod cwmnïau yn gweithio'n agos â phrifysgolion a Llywodraeth Cymru i sefydlu "sylfaen gref ar gyfer dyfodol addawol".
Ond ychwanegodd bod gan dechnoleg broblem, a'i bod yn cael ei weld fel sector i ddynion, sy'n rhwystro merched rhag ceisio am swyddi mewn busnesau o'r fath.
Daw'r sylwadau wrth i Llywodraeth Cymru lansio nawdd o £10m, yn cynnwys arian gan yr Undeb Ewropeaidd, i wella cydraddoldeb mewn llefydd gwaith.
Dywedodd Mr Griffin, sydd wedi astudio a gweithio yng Nghaerdydd, bod Cymru wedi gwneud yn dda i ddenu cwmnïau mawr ac annog entrepreneuriaeth.
Dim ond 16% o swyddi technoleg gwybodaeth yn y DU sy'n cael eu llenwi gan ferched, gyda'r ffigwr ychydig yn uwch (19%) yng Nghymru.
'Pobl ysbrydoledig'
Dywedodd brif weithredwr Dell UK bod tri allan o bedwar o reolwyr cyffredinol y cwmni yn ferched, a bod cael "pobl ysbrydoledig" yn bwysig i annog mwy o ferched i ddangos diddordeb yn y maes.
Ond ychwanegodd bod angen gwneud mwy, yn cynnwys gweithio gydag ysgolion a phrifysgolion i wella pethau yn y sector.
Dywedodd bod ysgolion yn bwysig oherwydd bod rhai swyddi technoleg yn ddibynnol ar ba bynciau mae disgyblion wedi dewis eu hastudio.
"Mae problem gyda'r ffordd mae'r diwydiant yn cael ei weld ac mae hynny'n digwydd pan yn ifanc iawn. Dydi hi ddim yn adlewyrchiad o'r diwydiant technoleg gwybodaeth yn unig," meddai.
"Mae'n digwydd ar draws cymdeithas ble rydyn ni'n creu stereoteipiau ac annog cydymffurfiad ar gyfer merched a dynion sy'n achosi pob math o broblemau."
Mae cartref y diwydiant technoleg, Silicon Valley, wedi cael ysgytwad yn ddiweddar gan honiadau o anffafriaeth rywiol yn erbyn cwmnïau fel Facebook a Twitter, er i'r ddau gwmni wadu hyn.
Dywedodd Mr Griffin bod hyn yn pwysleisio'r angen ar gyfer merched mewn safleoedd uchel nid yn unig yn y DU ond ar draws y byd.
Mae dros 28,000 o bobl mewn swyddi digidol yng Nghymru.
Mae de Cymru wedi gweld cynnydd o 87% mewn cwmnïau digidol newydd gafodd eu creu rhwng 2010 a 2013 tra bo'r cyfartaledd ledled y DU yn 53%.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2015