Y Comisiynydd Plant newydd yn cyflwyno her i Gymru
- Cyhoeddwyd
Wrth ddechrau yn ei swydd newydd, mae Comisiynydd Plant Cymru yn dweud bod gormod o drafod am les plant yn digwydd ymhlith oedolion, heb glywed gan blant yn uniongyrchol.
Mae'r Athro Sally Holland, sy'n symud o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, yn dechrau yn ei rôl newydd ddydd Llun.
Yn ei gweithred gyntaf yn y swydd, mae hi wedi cyhoeddi cynlluniau i lansio ymgynghoriad er mwyn i blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru allu dweud eu dweud ynglŷn â sut gallai eu bywydau gael eu gwella.
Dywedodd ei bod yn pryderu bod rhai grwpiau o blant allan o'r golwg, a'i bod hi wedi ymroi i weithio gyda phlant a phobl ifanc wrth bennu ei blaenoriaethau yn ei rôl newydd.
'Dinasyddion actif'
"Mae rhai grwpiau o blant allan o'n golwg - plant sydd mewn gofal, plant ag anableddau, plant â phroblemau iechyd meddwl, i enwi ond ychydig," meddai'r Athro Holland.
"Dydw i ddim eisiau iddyn nhw ddiflannu o'r hyn rydyn ni'n gallu ei weld. Dydw i ddim eisiau iddyn nhw fod yn ddinasyddion goddefol. Yn hytrach, dylen nhw gael eu galluogi i fod yn ddinasyddion actif, sy'n gofyn llawer, ac yn cyfrannu hefyd.
"Yr her i bob un ohonom yw creu gwlad sy'n gosod gwerth ar blant fel dinasyddion yma, nawr."
Eleni bydd yr Athro Holland, ynghyd â Chomisiynwyr Plant eraill y DU, yn adrodd i'r Cenhedloedd Unedig ynghylch perfformiad Llywodraethau'r DU ynglŷn â hawliau plant.
'Hybu hawliau plant'
Mae'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths, wedi croesawu'r Athro Holland i'w rôl newydd.
"Dylai ei phrofiad ym meysydd gwaith cymdeithasol a hawliau plant a'i hymrwymiad i rymuso plant a phobl ifanc ei gwneud yn llysgennad effeithiol drostynt," meddai.
"Mae gan Gymru hanes cryf o hybu hawliau plant, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r Athro Holland i sicrhau bod hyn yn parhau."