Cofio Merêd yng Ngwobrau Gwerin Radio 2
- Cyhoeddwyd
Bydd gwobrau yn cael eu cyflwyno i'r diweddar Dr Meredydd Evans, Cat Stevens a Loudon Wainwright III wrth i Wobrau Gwerin Radio 2 gael ei ddarlledu'n fyw o Gaerdydd heno.
Bu farw Dr Evans, oedd yn cael ei adnabod fel Merêd, ym mis Chwefror yn 95 mlwydd oed. Mae'r BBC yn mynd i'w anrhydeddu gyda Gwobr Traddodiad Da, sy'n cael ei roi i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i gerddoriaeth gwerin y DU.
Fe fydd Cat Stevens - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Yusuf Islam - a Wainwright yn derbyn gwobrau arbennig am eu cyfraniadau hirdymor i'r diwydiant.
Ymhlith perfformwyr y seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru mae'r ddeuawd Gymreig 9Bach, sydd wedi'u henwebu am yr albwm orau.
'Mopio'n lan'
Dwedodd un hanner o 9Bach, Lisa Jên, iddi synnu i glywed fod ei halbwm Tincian wedi cyrraedd y rhestr fer.
"Oedd o'n andros o sioc pan naethon ni ffeindio allan. Doeddwn ni ddim yn disgwyl o o gwbl. Roeddan ni wedi mopio'n lan, oedd o'n rili golygu lot i ni ein bod ni wedi cael ein enwebu."
Mae Lisa Jên hefyd wedi croesawu'r wobr arbennig i Merêd.
"Dwi mor falch bod nhw'n gweld y gwerth yn rhywun - cawr - fel Merêd.
"Dwi di bod yn gwrando lot ar ei stwff o yn ddiweddar, a does 'na jyst neb fatha fo, mae o wedi ysbrydoli ni gyd yma yng Nghymru a di bod yn gefn, ac yn un o'r bobl 'na dwi'n meddwl oeddech chi byth yn meddwl fydda'n mynd.
Ysbryd
"Mae ei ysbryd o yn amlwg yn dal i barhau, felly mae cael rhywun o du allan i Gymru sy'n werthfawrogol o hynna yn beth mawr iawn i gerddoriaeth gwerin, a dim jyst i gerddoriaeth gwerin ond i gerddoriaeth yn gyffredinol yng Nghymru."
Fe fydd y noson yn dathlu perfformwyr a'u gweithiau mewn nifer o gategorïau, gan gynnwys Canwr Gwerin y Flwyddyn a'r Grŵp Orau.
Yn o gystal â'r seremoni, fe fydd artistiaid Cymreig yn perfformio ar lwyfan Glanfa y Ganolfan yn ystod y prynhawn.
Mae Gwobrau Gwerin BBC Radio 2 yn cael ei darlledu'n fyw o 7:30pm-10pm ar Radio 2, a bydd uchafbwyntiau fideo ar gael ar y BBC iPlayer ar ôl y digwyddiad, ac ar y Botwm Coch.