Cyfle i weld cynlluniau'r Ysgwrn
- Cyhoeddwyd

Daeth Yr Ysgwrn i ofal Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2012
Bydd cyfle i'r cyhoedd weld cynlluniau i adfer ac arddangos cartref Hedd Wyn yn ardal Trawsfynydd ddydd Sadwrn.
Bydd yr Ysgwrn yn cael ei addasu yn ganolfan treftadaeth, ac ymhlith y trysorau bydd Cadair Ddu Eisteddfod Penbedw 1917.
Bu farw Hedd Wyn - Ellis Humphrey Evans - yn Passchendaele chwe wythnos cyn y brifwyl.
Dywed Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod Yr Ysgwrn wedi ysgogi peth o farddoniaeth gorau'r bardd.
Bydd y gwaith o adfer yr adeilad yn dechrau yn yr haf.

Bu farw Hedd Wyn ym mrwydr Passchendaele

Bydd yr adeiladau yn cael eu haddasu gan greu derbynfa, caffi ac ystafell arddangos
Mae'r Awdurdod wedi derbyn grant o £2.8 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn diogelu'r cartref a'r adeiladau cyfagos oedd yn eiddo i deulu Hedd Wyn
Dechreuodd y frwydr i achub Yr Ysgwrn, adeilad Rhestredig Gradd II, ar ôl i nai'r bardd leisio pryderon yn 2009.
Dywedodd Sian Griffiths, rheolwr y prosiect: "Beth sy'n hynod bwysig ydi ein bod ni'n cadw awyrgylch Yr Ysgwrn.
"Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gerald Williams, nai Hedd Wyn, a'i deulu, am y gofal arbennig maen nhw wedi'i roi i'r cartref dros yr holl flynyddoedd. Ein cyfrifoldeb ni nawr yw parhau a'r un gofal, a chadw'r drws ar agor i genedlaethau'r dyfodol.

Fe fydd yr holl adeilad ar agor i'r cyhoedd unwaith i'r gwaith gael ei gwlbhau

Cynlluniau ar gyfer Yr Ysgwrn