'Angen gwella' darpariaeth iaith Gardd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dweud bod angen i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wella'r ddarpariaeth Gymraeg fel rhan o unrhyw gytundeb i ariannu'r gerddi yn y dyfodol.
Mae'r Ardd wedi cael ei beirniadu dros yr wythnosau diwethaf am nifer yr arwyddion uniaith Saesneg sy'n cael eu defnyddio i hyrwyddo digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yno.
Mae'r Ardd yn derbyn nawdd gan y cyngor, ond mae'r cyngor wedi dweud bod disgwyl i'r Ardd wella ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel amod o unrhyw gytundeb ariannu newydd.
Mae adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer y Bwrdd Gweithredol ynghylch a ddylai'r cyngor barhau i ariannu'r Ardd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y bydd y ddarpariaeth Gymraeg yn cael ei adolygu a'i gryfhau yn ystod trafodaethau cyllidebol gyda'r Ardd yn y dyfodol.
'Siom'
Mae cadarnhad hefyd bod Wendy Walters, Prif Weithredwr Cynorthwyol y cyngor, wedi ysgrifennu at Gyfarwyddwr yr Ardd, Dr Rosie Plummer, i fynegi ei "siom" ac i drefnu cyfarfod i greu "cynllun gweithredu".
Mewn datblygiad ar wahân, mae'r Ardd Fotaneg wedi dweud wrth Comisiynydd y Gymraeg y bydd yn gwneud newidiadau i'r ffordd y maen nhw'n gweithredu o ganlyniad i gŵyn gan un o'r trigolion lleol.
Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr a ysgrifennwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg sy'n cadarnhau bod yr Ardd wedi cyfaddef i "weithredu yn groes i'w cynllun iaith Gymraeg".
Mewn ymateb i'r gŵyn a gyflwynwyd gan un o'r trigolion lleol, Iola Wyn, mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod yr Ardd yn bwriadu codi arwydd Cymraeg ger Caerfyrddin "i dargedu cynulleidfa leol".
Mae'r Ardd hefyd wedi cyfaddef y dylai anfon negeseuon e-bost dwyieithog i ddarparwyr llety gwyliau lleol, yn ôl y Comisiynydd y Gymraeg.