Comisiynydd: 'Cam yn ôl' i wasanaethau bancio Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae banciau wedi cymryd "cam yn ôl yn hytrach nag ymlaen" ac mae'r Gymraeg wedi ei "diraddio" yn ddiweddar, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws.
Mewn adroddiad newydd mae'r comisiynydd yn dweud bod angen i fanciau wella eu darpariaeth Cymraeg mewn gwasanaethau ar-lein a digidol.
Mae'n un o nifer o argymhellion ddaw o adolygiad gan y comisiynydd, wedi iddi dderbyn cwynion gan bobl "sy'n siomedig â diffyg darpariaeth Gymraeg y banciau yng Nghymru".
Daeth y nifer fwyaf o gwynion am wasanaethau gweinyddol, tra bod cwynion hefyd am wasanaethau ffôn a diffyg staff Cymraeg.
Mae'r adroddiad yn rhybuddio y gall gwsmeriaid dderbyn "gwasanaethau eilradd ac aneffeithiol" os na fydd banciau yn gwella eu darpariaeth.
Daeth yr adolygiad o ganlyniad i gynnydd yn nifer y cwynion am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnal gan fanciau.
Dywedodd Meri Huws mai'r bwriad oedd adolygu "cryfderau a gwendidau'r gwasanaethau Cymraeg" sydd ar gael gan y banciau, a chynnig "argymhellion clir ac ymarferol er mwyn gweithio tuag at ddatrys unrhyw wendidau sy'n bodoli".
Cynnydd mawr yn y defnydd o dechnoleg newydd yw un o'r prif heriau i gwsmeriaid sydd eisiau defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn ôl yr arolwg, wrth i bobl ddefnyddio'r we neu apiau arbennig i ddelio gyda'u banciau.
Mae argymhellion y comisiynydd yn cynnwys:
Dylid adolygu polisïau iaith y prif fanciau er mwyn adlewyrchu realiti'r gwasanaethau sydd ar gael, a'r ffordd gellir manteisio ar y dechnoleg ddigidol fydd yn datblygu ymhellach yn ystod ail hanner y degawd.
Gwahoddir y banciau i osod amserlen ar gyfer sefydlu gwasanaethau Cymraeg ar-lein, i gynnwys datblygu apiau Cymraeg allai ganiatáu bancio symudol, a bancio ar-lein.
Dylid adolygu gwefannau'r banciau, gan roi dewis iaith i ddefnyddwyr sydd am ddarganfod gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, yn ogystal â chynnwys eu polisïau iaith.
Dylai'r banciau gyflwyno datganiad ynglŷn â'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael ymhob cangen - gan gynnwys pa staff Cymraeg eu hiaith sydd ar gael ar unrhyw adeg.
Dylai pob banc ystyried sut i gynnal ei wasanaeth Cymraeg mewn ardaloedd a effeithir gan gau canghennau, gan dalu sylw i'r ystod eang o gwsmeriaid a allai golli cysylltiad uniongyrchol â'u darparwyr.
Mae'r adroddiad yn nodi: "Wrth i'r newidiadau hyn ddigwydd ymddengys bydd llai o gyfleoedd yn bodoli i gwsmeriaid ddefnyddio'r iaith Gymraeg wrth iddynt ddelio â'u banciau.
"Mae'n hanfodol felly bod y banciau yn ystyried sut gallant gynnig gwasanaethau digidol fydd yn caniatáu bancio ar-lein neu symudol trwy 'apiau'."
Mae'r adroddiad yn dweud bod perygl i gwsmeriaid gael "gwasanaethau eilradd ac aneffeithiol" yn y Gymraeg.
Mewn datganiad, dywedodd HSBC eu bod yn cynnig gwasanaethau Cymraeg ac yn cyd-fynd gyda gofynion cyfreithiol.
Ychwanegodd y llefarydd ei fod yn bryder gweld cwynion, ond bod angen adolygiad ehangach i fynd i wraidd y broblem. Er hynny, mae HSBC yn ystyried argymhellion y comisiynydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2014