Darpar ŵr Cymraes o Lanuwchllyn yn cael ei anfon o'r DU
- Cyhoeddwyd
Mae merch o Lanuwchllyn wedi sôn am ei siom wedi i'w darpar ŵr gael ei anfon o'r wlad nos Lun.
Roedd Lliwen Gwyn Roberts, 27 oed, wedi gobeithio priodi Gareth MacRae, 30 oed o Seland Newydd, ar 11 Gorffennaf, ond bu'n rhaid canslo'r briodas wedi i sawl cais am fisa gael eu gwrthod.
Er gwaethaf y ffaith iddo fethu â sicrhau fisa i'w alluogi i aros ym Mhrydain, daeth Mr MacRae i'r wlad fel ymwelydd cyffredin, ond ar ôl cyrraedd ddydd Sadwrn diwethaf, cafodd ei anfon o'r wlad nos Lun.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Nid ydym ni yn arfer gwneud sylw ar achosion unigol."
Seland Newydd
Dywedodd Miss Roberts ei bod wedi cyfarfod Mr MacRae yn ystod gwyliau yn aros gyda'i chyfnither yn Seland Newydd yn 2009, ac wedi treulio tri mis gyda'i gilydd yno, mi wnaeth Mr MacRae wneud cais am fisa gwaith i ddod i Brydain.
Mi wnaeth y cwpl dreulio dwy flynedd yn byw gyda'i gilydd ym Mhrydain, cyn i Miss Roberts wneud cais am fisa 'gwyliau gwaith' blwyddyn yn Seland Newydd.
Dychwelodd y ddau i Seland Newydd, ac wedi blwyddyn yno, penderfynodd Miss Roberts wneud cais am 'partnership based' fisa, fyddai'n parhau am ddwy flynedd.
Daeth y fisa hwnnw i ben, a phenderfynodd Miss Roberts ddychwelyd i Gymru ar 10 Mawrth eleni.
Dychwelyd i Gymru
Roedd y cwpl wedi dyweddïo ym mis Chwefror 2014, ac ym mis Hydref 2014 fe wnaethon nhw gais am fisa 'marriage settlement' ym Mhrydain, fyddai'n golygu eu bod yn cael priodi a byw yng Nghymru.
Dywedodd Miss Roberts eu bod nhw "wedi darllen y gwaith papur i ddweud fod angen £18,600 yn y banc neu bod gan Gareth waith yn ei ddisgwyl yn y wlad.
"Mae Gareth yn gweithio ar oil-rigs - ac mae o'r math o waith lle mae'n anodd cael sicrwydd o flaen llaw am fod y gwaith yn aml yn para rhwng chwech a 12 mis.
"Roeddan ni wedi gwneud cais ym mis Hydref i ddod yn ôl ym mis Mawrth - ond roedd hi'n amhosib cael cwmni fyddai'n gaddo gwaith i Gareth chwe mis i lawr y lein."
Felly mi wnaeth y cwpl benderfynu ceisio cynilo, ond ym mis Ionawr eleni cafodd cais Mr MacRae ei wrthod oherwydd nad oedd ganddo ddigon o arian yn ei gyfrif.
Fe wnaeth Miss Roberts a Mr MacRae apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ond dywedodd y Gwasanaeth Mewnfudo bod angen i rywun fod â £62,000 o gynilion, a bod y cwpl wedi camddarllen y gwaith papur, a bod hwnnw'n dweud bod angen i'r partner fod yn ennill £18,000 a hynny ers mwy na 6 mis.
Dywedodd Miss Roberts: "Rydw i wedi cael swydd sydd yn ennill mwy na hyn - ond dim ond ers rhyw dair wythnos - ond maen nhw'n dweud nad ydi hyn yn ddigon da."
Canslo priodas
Wedi hynny fe wnaeth y cwpl gyflwyno cais am fisa 'special visitor marriage'- sy'n rhoi'r hawl i rywun ddod mewn i'r wlad am chwe mis er mwyn priodi.
Dywedodd Miss Roberts: "Erbyn hynny roedden ni wedi cynilo dros £33,000, ond cafodd y cais hwnnw ei wrthod hefyd.
"Roedd y Gwasanaeth Mewnfudo yn dweud bod ein ceisiadau blaenorol wedi cael eu gwrthod, a doedden nhw ddim yn credu y byddai Gareth yn gadael y wlad wedi chwe mis.
"Fe wnaethon ni ddweud y bydden ni'n canslo'r briodas a chael 'blessing' yn ei le - ond doedd hyn ddim yn ddigon i'w perswadio nhw.
"Roedd popeth wedi cael ei dalu amdano - roedden ni wedi gwario £2,000 ar y parti priodas, £1,000 am y ffrog briodas a dros £7,000 ar bob dim.
"'Da ni wedi canslo pob dim a chawn ni ddim yr arian yn ôl - mae o wedi mynd i lawr y 'drain'.
"Roedd 'na 16 o aelodau o deulu Gareth o Seland Newydd wedi talu am flights ar gyfer y briodas ar 11 Gorffennaf hefyd".
Gadael Cymru
Mi wnaeth Mr MacRae gyrraedd Manceinion nos Sadwrn diwethaf, gan ddisgwyl derbyn stamp ymwelydd.
Disgrifiodd Miss Roberts y noson honno: "Fe wnaeth o gyrraedd am 19:15 ac fe gafodd ei adael drwodd am 22:30."
"Pan ddaeth o drwodd roeddwn i ar ben y byd ac fe wnaethon ni ddathlu ei fod yn y wlad ddydd Sul."
Ond roedd yn rhaid i Mr MacRae ddychwelyd i'r maes awyr ym Manceinion ddydd Llun, oherwydd bod yr awdurdodau wedi cadw ei basport.
Dywedodd Miss Roberts: "Roedd ganddo gyfarfod am 14:00 ac am 17:00 fe ddaeth o allan o'r swyddfa yn crio, wedi deall fod yn rhaid iddo fynd yn ôl.
"Roedden nhw wedi dadlau fod 'na gyfle y bydd fo'n gor-aros ei gyfnod yn y wlad... ac roedden nhw ofn y byddan ni'n priodi'n anghyfreithlon.
"Fe gafon ni un noson arall hefo'n gilydd, ac fe wnaeth o adael nos Lun o Fanceinion.
Ychwanegodd: "Mi fuon ni lawr i Lundain at Lysgenhadaeth Seland Newydd ddydd Mawrth ond doedd 'na ddim byd yr oeddan nhw yn gallu ei wneud.
"Dwi'n flin bod 'na un rheol i un person a rheol arall i un arall.
"Maen nhw'n ddigon bodlon i bobl ddod mewn a byw ar gefn y wlad, ond roedd gan Gareth sgiliau ac mi fydda fo wedi gallu cyfrannu at yr economi - ond mae'n edrych fel na fydd 'na ffordd i gael Gareth mewn i'r wlad rwan."