Cymry'r Lusitania
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gan mlynedd 'leni ers suddo llong bleser moethus y Lusitania.
Ar BBC Radio Cymru ar 6 Mai bydd Hedd Ladd Lewis yn olrhain cysylltiadau teuluol gyda'r trychineb ac yn sôn am effaith y digwyddiad ar gwrs y Rhyfel Mawr. Mae e'n rhannu rhan o'r hanes hefyd gyda Cymru Fyw:
'Straeon rhyfeddol'
Mae hel yr achau a cheisio agor cil y drws ar hanes rhai o fy nghyndeidiau wedi fy arwain ar drywydd nifer o straeon rhyfeddol. Ma' 'na rai byddai'r teulu wedi gobeithio na fyddent fyth eto'n cael eu hail adrodd, rhag ofn. Eu claddu fyddai orau!
Ond mae 'na hanesion eraill sydd yn agor cil y drws ar natur anturiaethus ambell aelod o'r teulu, eraill yn ddirdynnol ac eraill yn ddigon cyffredin.
Ond, mae pob un yn cynnig persbectif o'r newydd ar ddigwyddiadau hanesyddol effeithiodd ar deuluoedd, cymunedau ac unigolion yma yng Nghymru a thu hwnt.
Yn ystod fy nhaith yn hel achau rwyf wedi dod ar draws hanes un o fy nghyndeidiau a fu'n arwain terfysg yn Nhrefdraeth, un arall ymladdodd yn Rhyfel y Crimea ac un a ymfudodd i Batagonia.
Roedd un yn rheolwr lladd-dy yn Nhreganna, Caerdydd, a hwyliodd un arall rownd 'Yr Horn'.
Dathlodd fy nhad-cu ei ben-blwydd yn bymtheg oed yn Odessa a lladdwyd ei dad yntau ar faes y gad ger Arras yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bu un yn Gapten ar gun boat yn Burma yn herio'r Siapaneaid adeg yr Ail Ryfel Byd ac mae un arall wedi ei gladdu yn Rio de Janeiro. Ma' pob un yn stori ryfeddol.
Ar drywydd ewyllys
Ond, mae'r stori nesaf gyda'r mwyaf cyffrous ac mae'n cychwyn â darganfod ewyllys a fyddai yn ei dro yn fy arwain ar daith hanesyddol o Landudoch i Ganada, Efrog Newydd ac yn ôl ar draws yr Iwerydd i dde orllewin Iwerddon.
Mae'r stori'n cychwyn ag ewyllys un Owen Ladd, 218 Carlton Street, Winnipeg, Canada. Bu farw Owen Ladd ar y 7fed o Fai, 1915 ac yntau ond yn 33 oed ac yn ddi-briod.
Ei dad William Ladd etifeddodd y swm nid ansylweddol o £116 a 12 swllt ar y 26ain o Awst 1915. Yn yr archifdy yn Hwlffordd oeddwn pan ddes i ar draws y ddogfen yma ac fe hoeliwyd fy sylw am ddau reswm.
Y cyntaf oedd fy mod yn rhannu'r un cyfenw. Tybed oedd yna gysylltiad teuluol? Yn ail, beth oedd ewyllys dyn o Ganada yn ei wneud yn casglu dwst yn Hwlffordd? Felly dyma gychwyn ar daith hanesyddol arall.
Ymhen hir a hwyr llwyddais i ddarganfod fy mod yn perthyn i Owen Ladd.
Roedd Owen yn fab i William a Phoeby Ladd a cafodd ei eni yn y 'Mount', Eglwyswrw. Roedd William, tad Owen yn frawd i fy hen hen dad-cu, Charles Ladd a ymfudodd i Batagonia gyda'i wraig Hannah yn 1888.
Dychwelyd wnaeth Charles a Hannah gyda'u plant wedi blynyddoedd o lafurio ar y paith, ond daeth yn amlwg fod mwy nag un o'r teulu wedi mentro dros y dŵr. Tybed beth oedd Owen Ladd yn ei wneud yng Nghanada a sut buodd farw? Rhaid oedd darganfod mwy am hynt a helynt Owen Ladd.
Roedd Owen wedi gweithio am gyfnod yn siop y gemydd Timothy Sambrook, Aberteifi, cyn hel ei bac a threulio naw mlynedd yn rheoli siop yn Nhreorci, Rhondda ble roedd ei frawd John yn byw.
Yna, yn 1911 gadawodd Gymru am Winnipeg, Canada i ymuno â'i frawd David oedd wedi ymfudo rhai blynyddoedd ynghynt. Mae'n debyg fod yna lawer o Gymry yn Winnipeg a daeth Owen yn adnabyddus yno fel beirniad yn yr eisteddfodau lleol a bu'n ysgrifennydd y côr Cymraeg.
Mordaith dyngedfennol
Roedd dyddiad y 7fed o Fai, 1915 yn canu cloch felly dyma bori trwy lyfrau am hanes y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma'r diwrnod suddwyd llong y Lusitania oddi ar arfordir Iwerddon, a hithau ar fordaith o Efrog Newydd i Lerpwl.
Tybed a oedd Owen yn un o'r teithwyr? Felly, dyma chwilio rhestr teithwyr un o longau enwocaf ei chyfnod ac yno rhwng Mr Samuel Kuebillick, 31 oed a Miss Martha Lakin, 40 oed yn teithio 'Second Class' oedd enw Owen. Hwyliodd y Lusitania o Efrog Newydd ar ei mordaith olaf ar y 1af o Fai.
Wedi pedair blynedd yn Winnipeg roedd Owen wedi penderfynu dychwelyd adref a hynny ar fwrdd y Lusitania wrth i'r ymladd ar fôr a thir ddwysáu. Roedd Owen Ladd yn un o'r 1,960 o deithwyr a chriw ar y fordaith dyngedfennol honno a fyddai'n agor pennod newydd yn hanes erchyll ac anfad y Rhyfel Byd Cyntaf. Beth oedd wedi digwydd i Owen? Rhaid oedd darganfod mwy.
Mae'r rhaglen hon wedi codi'r llen nid yn unig ar stori fy mherthynas i, Owen Ladd, ond hefyd ar brofiadau'r Cymry eraill fu ar y fordaith drasig honno.
Roedd trychineb suddo'r Lusitania yn bennod bwysig yn hanes y Rhyfel Mawr. Eleni, ar Fai'r 7fed - ganrif wedi'r gyflafan - bydd sawl digwyddiad yn nodi'r dyddiad pwysig hwn.
O ystyried ein cysylltiad ni'r Cymry â'r Lusitania, mae'n bryd i ni hefyd gofio digwyddiadau'r diwrnod hwnnw a sicrhau bod enw a hanes y Lusitania ar gof a chadw am genedlaethau i ddod.
Suddo'r Lusitania, BBC Radio Cymru, Mercher 6 Mai, 18:15