Yn llygaid eu Lle
- Cyhoeddwyd
Fel rhan o ymgyrch Hoff Le, mae BBC Cymru Fyw wedi gwahodd rhai o bobl adnabyddus Cymru i gyfrannu lluniau o'u hoff lefydd - ac esbonio pam mae'r llefydd hynny'n bwysig iddyn nhw.
Cliciwch fan hyn i ddarganfod sut i gysylltu gyda BBC Cymru Fyw. Bydd y darnau gorau yn ymddangos mewn cyfres o orielau arbennig 'Hoff Le' yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mererid Hopwood (Bardd) - Carreg Samson ar ben Garn Wnda ym Mhencader
Ydy dewis 'hoff le' fel dewis 'hoff gerdd' neu 'hoff fwyd' a llawer 'hoff' beth arall, yn dibynnu i raddau ar hwyl? Siwr o fod, a chystal cyfaddef, mae mwy nag un lle yn dod i'm meddwl. Ond am heddiw, fe ddwedai: Carreg Samson ar ben Garn Wnda ym Mhencaer. Pan fo pelydrau'r bore'n fain, gallwch weld y llwybr sy'n arwain at y gromlech hon o bell, er nad oes dim ond ôl troed wedi'i naddu. Ac o ddilyn y llwybr a chyrraedd cap y beddrod hynafol hwn, cewch weld rhyfeddodau!
Samson y Cawr a daflodd y garreg yn ei wylltineb ryw ddiwrnod, yr holl ffordd o Garn Bristgarn gyferbyn. Ta beth oedd achos y gynnen, gwnaeth gymwynas fawr â ni. Oherwydd o'r maen hwn, gallwn weld heibio to eglwys Llanwnda yr holl ffordd draw i Ben Llyn.
Marce 12 neu 3 o'r gloch y prynhawn yw'r awr ddelfrydol i eistedd arni. Bryd hynny mae llong Iwerddon yn hwylio heibio, yn cario pob posibilrwydd ar ei bwrdd. Ond yr hyn sy'n rhyfeddol, ta beth yw'r awr, a beth yw lliw'r tywydd, mae'r eithin ar Garn Wnda mor aur â'r haul ei hunan.
Katherine Jenkins (cantores) - Bae'r Tri Chlogwyn
"Er i fi gael fy magu yn yr ardal, mae'r Gŵyr erioed wedi bod yn le gwyliau i'n teulu ni. Bydden ni'n mynd am y penwythnos i Fae'r Tri Chlogwyn - dim ond chwe milltir i lawr y ffordd! Roedd gan fy modryb garafan bach ar y clogwyn, ac o'n i'n treulio dyddiau 'na yn ystod yr haf gyda fy nghi, yn cloddio cychod yn y tywod i eistedd ynddyn nhw ac aros i'r llanw ddod i mewn.
"Nid bod yn sentimental ydw i: mae'r bae wir yn brydferth, gyda thair craig trionglog yn gwthio'u ffordd drwy'r tonnau, fel pyramidau. Gallwch chi gerdded oddi tanyn nhw, drwy fwa caregog i lan y môr. Mae 'na chydig o bopeth: y môr, clogwyni, morfeydd heli, a nant yn llwybreiddio tuag at y môr - a Chastell Pennard, caer 800 mlwydd oed sy'n cuddio tu ôl i'r traeth. Mae'r adfail yn hyfryd, yn berffaith ar gyfer crwydro.
"Weithiau rwyt ti hyd yn oed yn gweld ceffylau gwyllt yn carlamu ar draws y tywod. Mor rhamantus. Mae'n beth od i'w ddweud am draeth, ond i fi mae Bae'r Tri Chlogwyn bob amser yn teimlo mor glyd ac agos atoch. Mae e fel y teimlad o gael cwtch. Pryd bynnag fi adre, fi'n mynd â ffrindie 'na ac ma' hud y lle wastad yn fy nharo i. Mae'r lle'n dwyn fy anadl bob tro!"
Matt Johnson (cyflwynydd teledu) - Castell Caerffili
"Dyma lun ohona i tu allan i Gastell Caerffili - y castell mwyaf yng Nghymru. Fi 'di bod yn lwcus cael ymweld â lot o lefydd arbennig yng Nghymru - ond does unman yn debyg i adre! Fi'n ymfalchio'n fawr yn fy ardal i - ac ma' Castell Caerffili yn rhywle dyle Cymru gyfan ymfalchio ynddo.
"Hefyd, cafodd y ddawns ysgol ei chynnal yno - felly mae'r lle'n dal llawer o atgofion hapus!"
Kizzy Crawford (cantores a chyflwynydd) - Gerddi Tŷ Glyn
"Ces i fy magu yn Aberaeron a Chiliau Aeron ac yn ystod yr amser o'n i'n byw yna, Gerddi Tŷ Glyn oedd fy hoff le i fynd, yn enwedig gyda'r teulu.
"Fel teulu roedden ni'n galw'r lle 'Yr Ardd Gyfrinachol' oherwydd pob tro aethom ni yna roedden ni rhan fwyaf o'r amser yr unig bobl yna. Roedd e'n teimlo fel ein gardd cyfrinachol ni! Mae'r gardd gyda llwyth o flodau, planhigion a llysiau gwahanol yn tyfu yna, parc bach twt ar gyfer plant a llawer o gelf o gwmpas y waliau.
"Es i nôl yna am y tro cyntaf mewn chwech mlynedd eleni a nath fy ymweliad atgoffa fi pa mor sbesial yw'r ardd i fi gan ei fod mor brydferth ac yn dal lawer o atgofion hapus!"
Huw Stephens (DJ Radio 1) - Prom Aberystwyth
"Fy hoff le ydi'r prom yn Aberystwyth. Mae gweld y môr yn neud i fi deimlo'n llonydd a hapus. Mae cân gan 'Los Campesinos!' o'r enw 'The Sea is a Good Place to Think About the Future', ac mae'n wir. Mae Mam o Aberystwyth yn wreiddiol, ac mae fy ngwraig o Dregaron, felly fi'n cymryd bob cyfle i fynd i weld y traeth. Pan ro'n i'n fach ro'n i'n cael hufen iâ a gweld yr asyn. Nawr fi ddim ond yn cael hufen iâ."
Lowri Morgan (anturwraig a chyflwynydd) - Y Gŵyr
"Ry'n ni'n lwcus iawn yng Nghymru oherwydd mae gennyn ni rai o'r golygfeydd gorau yn y byd. Ond fy hoff le yw'r Gŵyr - y lle ges i fy magu a'r ardal gyflwynodd y byd antur i mi. I mi, lle i'r enaid gael gorffwys yw'r Gŵyr.
"Mae genna'i atgofion melys iawn o anturiaethau di-ri yno ar y traethau, môr ac ar hyd yr arfordir. Yna, i orffen y diwrnodau, mi fyddwn i'n gwylio'i machludoedd bendigedig gyda'r teulu a ffrindiau. Dwi'n dal i ddychwelyd adref ac mae'i phrydferthwch yn dal i fy rhyfeddu."
Tim Rhys-Evans (arweinydd Only Men Aloud) - Coed Craig Ruperra, Caerffili
"Er i fi gael fy nghodi yn ardal Caerffili, doedd gen i ddim syniad bod y lle yma'n bodoli tan fy mod yn symud i fyw wrth ymyl rhai blynyddoedd yn ôl. Mae e'n 'hidden gem' go iawn.
"Pan oeddwn i'n ymarfer ar gyfer rhedeg y marathon, bydden i'n gwibio i fyny ac i lawr y llwybr rhyw dair gwaith yr wythnos. Ond gwell fyth ydy cerdded y llwybr yn hamddenol i fyny at adfeilion Castell Ruperra ac edmygu'r golygfeydd godidog o gopa'r graig. Ma'r wac i fyny'n hyfryd - ac yn enwedig o brydferth adeg mis Mai pan mae clychau'r gog allan."
Eleri Siôn (cyflwynydd radio) - Harbwr Aberaeron
"Wal harbwr Aberaeron ar noson braf. Gyda naill ai hufen iâ neu glasied o win, 'sdim lle mwy braf i ymlacio wrth wrando ar glychau'r cychod yn tincian ac edrych ar draws yr harbwr sy'n cael ei amgylchynu â'r tai lliwgar."
Iolo Williams (naturiaethwr) - Mynyddoedd y Berwyn
"Tyfais i fyny yng nghysgod Mynyddoedd y Berwyn ac mae gen i atgofion melys iawn o'r ardal. Nes i gychwyn crwydro'r rhosydd gyda Bitw fy nghi yn gwmni pan o'n i'n fachgen bach ac mae'n siŵr mai dyna wnaeth danio fy niddordeb ym myd natur. Bydda i dal yn mynd yno nawr pan dwi isho dianc a gweld neb. O Ebrill i Orffennaf bydda i'n neilltuo un diwrnod bob mis er mwyn treulio amser yno yn mwynhau'r bywyd gwyllt - waeth beth bynnag arall sydd i'w wneud."
Bonnie Tyler (cantores) - Rhosili
"Dyma lun wnes i dynnu yn Rhosili rhyw bythefnos yn ôl. Mae'r daith i lawr o'r Mwmbwls yn brydferth ac ma' Rhosili ei hun yn mynd â'ch gwynt. Fi'n dwli mynd 'na pan fi'n dod nôl o deithio dramor. Ma'r caffi'n coginio'r cawl gorau 'rioed. Mmm, blasus!"
Dylan Jones (cyflwynydd Radio Cymru) - Mynydd Garthmyn
"Dyma Ddyffryn Conwy a'r olygfa o Fynydd Garthmyn, Capel Garmon - lle i enaid gael llonydd."
Manon Carpenter (pencampwraig beicio mynydd) - Mynydd Machen
"Rwy'n beicio mynydd dros y byd i gyd. Ond, pan fi'n dod nôl i Gymru, un o fy hoff lefydd i fynd yw copa mynydd Machen. Mae'n bosib gweld am filltiroedd i bob cyfeiriad ac rwy'n teimlo mod i wir wedi cyrraedd adre!
"Mae'r daith i fyny'n un anodd ond ma' dod lawr yn hollol ddiymdrech. 'Sdim ots os ma' hi'n heulog, glawio neu bwrw eira, fi wastad yn cyrraedd y gwaelod gyda gwên fawr ar fy ngwyneb!"
Derek Brockway (dyn tywydd BBC Cymru) - Portmeirion
"Dwi 'di bod yn lwcus cael teithio i bob cwr o Gymru wrth gyflwyno'r gyfres 'Weatherman Walking' felly mae'n anodd iawn dewis un lle! Gan fy mod i'n dod o'r Barri, mae'r Fro'n agos iawn at fy nghalon i, wrth gwrs. Ond un lle dwi'n mynd nôl iddo dro ar ôl tro ydi Portmeirion.
"Mae'n braf gweld y tarth yn codi o aber Dwyryd yn y bore a'r mynyddoedd mawreddog yn gefndir i'r cyfan. Ac wrth gwrs dwi wrth fy modd yn cerdded ar hyd llwybrau'r arfordir."
Connie Fisher (seren y West End a chyflwynydd teledu) - hen harbwr y Barri
"Dyma un o fy hoff lefydd i weld yr haul yn machlud. Dwi'n rhedeg ar hyd y llwybr yma weithiau a jyst yn gorfod stopio i dynnu llun. O bryd i'w gilydd mae'n bosib gweld yr awyrennau'n gostwng i lanio ac mae 'na awyrgylch rhyfedd sy'n gymysgedd o lonyddwch ac egni. Dyna sy'n unigryw am y Barri. Mae mor agos i brysurdeb y brifddinas - ond eto'n llawn prydferthwch. Wedyn ry'ch chi'n troi i'r cyfeiriad arall a gweld goleuadau neon y ffair yn fflachio! Mae'n gymysgedd hynod o fyd natur a masnach. "
Simon Weston (awdur, ymgyrchydd a chyn-filwr Rhyfel y Falklands) - Llancaiach Fawr, Caerffili
"Fel plant, bydden ni'n mwynhau anturiaethau mawr yng ngerddi ystâd Llancaiach. Yn wir, roedd cyrraedd y lle yn antur yn ei hun. Bydde criw ohonon ni'n cychwyn ben bore gyda'n brechdanau jam a'n poteli sgwash ac yn croesi caeau a nentydd cyn sleifio i mewn drwy'r gerddi. Wedi'n hysbrydoli gan hanes y lle, bydden ni'n treulio oriau yn ail-greu rhaglenni teledu fel y 'The Three Musketeers' a 'Flashing Blade' - yn brwydro pob math o elynion gyda chleddyfau wedi eu creu o goed pren. Mae'r lle'n dal fy nychymyg hyd heddiw."
Nia Parry (cyflwynydd a chynhyrchydd teledu) - fy ngardd yn Rhostryfan
"Fy hoff le ydy adre yn Rhostryfan yn yr ardd efo'r plant. Mae bod adre yn ein cartref clyd efo'r teulu yn nefoedd i mi. Mae golygfeydd hyfryd o'r tŷ a 'da ni'n edrych lawr dros y Fenai ac yn gweld Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn. Mae gwylio'r machlud yn ffordd berffaith o ymlacio."
Elis James (digrifwr) - Machynlleth adeg yr ŵyl gomedi
"Fy hoff le yng Nghymru yw Machynlleth yn ystod yr ŵyl gomedi a gynhelir yno, penwythnos cyntaf mis Mai. Ma' Mach yn dre' hyfryd 'ta pryd chi'n dewis mynd, ond gyda dros gant o gomedïwyr gorau'r byd yn perfformio, ma' fe hyd yn oed yn well. Ma'r awyrgylch wastod yn wych, ma'r tywydd wastod yn wych (croesi bysedd!), a ma' fe'n rhoi cyfle i bobl y canolbarth fwynhau y gorau sydd gan gomedi i'w gynnig."
Mari Lovgreen (cyflwynydd teledu) - Tafarn y Black Boy, Caernarfon
"Fy hoff le'n y byd ydi tafarn y 'Black Boy' yng Nghaernarfon. Dydi'r paragraff yma'n egluro pam ddim am fod yn hir: tân agored, bwyd da, cwrw oer, cwmni gwell ac awyrgylch arbennig. Oes angen deud mwy?"
Tommo (cyflwynydd Radio Cymru) - Mwnt
"Fy hoff le yng Nghymru - a'r byd - fydden i'n dweud yw traeth y Mwnt ger Aberteifi. Mae'r golygfeydd o'r traeth yn fendigedig. Ma 'na ddigon o le i redeg ambyti'r lle 'na, a dyma'r lle gore i eistedd nôl, ymlacio a gwylio'r haul yn machlud."
Sara Davies (Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Caerffili a'r Cylch 2015) - Castell Caerffili
"Wrth eistedd ar gyrion ffos Castell Caerffili, daw atgofion melys o fwydo'r hwyaid tra'n blentyn, a chael fy swyno gan chwedl Arglwyddes Werdd Caerffili. Dwi'n amau mae dyma lle ddechreuodd fy chwant i ymchwilio i hanes a threftadaeth ein cenedl, a wnaeth arwain at radd mewn hanes, a gyrfa'n addysgu'r pwnc gan obeithio tanio'r un chwilfrydedd mewn eraill. Roedd gweld dros 4,000 yn cyrraedd y castell wedi gorymdeithio trwy'r dref ar gyfer yr Ŵyl Gyhoeddi, a chroesawu'r Eisteddfod i'n plith, wir wedi ychwanegu at yr atgofion melys sydd gennyf am yr amddiffynfa ganoloesol hon a eisteddai yng nghanol fy nhref enedigol."
Jonathan Davies (sylwebydd a chyn gapten tîm rygbi Cymru) - traeth Llangennith
"O'n ni'n mynd i draeth Llangennith yn aml fel plant - fi'n dwli ar y lle."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2015