Ble mae eich Hoff Le?

  • Cyhoeddwyd
Hoff LeFfynhonnell y llun, BBC Cymru Fyw

Beth yw Hoff Le?

O olygfeydd godidog i'r mannau cuddiedig hynny sy'n eich ysbrydoli chi, mae BBC Cymru Fyw yn mynd ati i greu casgliad o luniau a straeon sy'n ymwneud â'r holl lefydd hynny sy'n bwysig i bobl Cymru.

Gall fod yn draeth adnabyddus, yn adeilad hanesyddol - neu'n rhywle hollol unigryw ac annisgwyl fel gorsaf drên neu sied yn yr ardd gefn.

Bydd y lluniau a'r straeon mwyaf diddorol yn ymddangos ar wefan BBC Cymru Fyw, felly cofiwch ychwanegu ychydig o eiriau i ddisgrifio'r lle ac esbonio pam mae'n bwysig i chi.

Isod, gallwch chi weld y detholiad cyntaf o'r llefydd sydd wedi cael eu henwebu gan rai o enwogion Cymru. Ac mae 'na fwy o luniau yn yr oriel arbennig yma hefyd.

Sut i gysylltu

Gallwch gysylltu mewn nifer o ffyrdd:

Does dim rhaid eich bod yn byw yng Nghymru i rannu eich llun, ond mae'n rhaid bod y llun wedi ei dynnu yng Nghymru.

Mae'n bosib bydd eich lluniau'n ymddangos ar rai o wefannau'r BBC a hefyd ar rai o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru Wales fel Twitter a Facebook.

Os ydych yn cyfrannu llun rydych yn rhoi'r hawl i ni i'w ail-gyhoeddi heb dalu breindal. Byddwn yn cydnabod y llun lle bynnag bo hynny'n bosib a byddwch chi'n cadw'r hawlfraint ar eich lluniau.

Yn llygaid eu Lle

I ddechrau'r ymgyrch, isod mae Cymru Fyw wedi gwahodd rhai o bobl adnabyddus Cymru i son am lefydd sy'n bwysig iddyn nhw. Ac i ddarllen mwy gan enwogion eraill fel Katherine Jenkins, Matt Johnson, Mari Lovgreen a Huw Stephens, ewch i oriel arbennig Hoff Le.

Bethan Gwanas (awdures) - Cadair Idris

Ffynhonnell y llun, Bethan Gwanas

"Cadair Idris! Pob rhan a phob modfedd ohoni. Dyma fynydd gorau Cymru heb os nac onibai: yr harddaf, y mwyaf diddorol, amrywiol a lledrithiol. Does 'na ddim caffi ar y copa a does 'na fawr o draffig chwaith. Yn anffodus, dydw i ddim wedi gallu mynd ar gyfyl y lle ers blynyddoedd, oherwydd trafferthion efo cluniau a phen-gliniau. Ond dwi'n mynd i gael clun newydd yr haf yma - ieeeee! A fy nymuniad pennaf, yr hyn dwi'n anelu ato, yw gallu dringo i ben Cader Idris eto. Pan fydda i i fyny fan'na nesaf, mi fydda i'n crio. "

Michael Sheen (seren Hollywood) - Talacharn

Ffynhonnell y llun, Micgael Sheen

"Mae gwaith Dylan Thomas wedi bod yn ffynhonnell cyson o bleser ac ysbrydoliaeth yn fy mywyd i. Ac mae'r lle hudol, rhyfeddol yma wedi fy nghyffroi i erioed. Cymerais i'r llun yma ar fy ymweliad diwethaf â Thalacharn pan ges i fy nhywys mas ar gwch pysgota. Wrth i ni hwylio i lawr yr aber heibio'r gwylanod ac ambell i grëyr a chylfinir, daeth y menywod oedd yn gweithio yn y 'Boathouse' mas i godi llaw wrth i ni fynd heibio.

"Ces i weld y lle mewn ffordd newydd, annisgwyl a bythgofiadwy. Wedi cyrraedd y lan a ffarwelio â fy ffrind newydd y pysgotwr, rhyfeddais at ei haeloni ac at fy lwc innau o'i gyfarfod. Yna wrth i mi gychwyn ar fy ffordd nôl ar draws y maes parcio gwaeddodd draw: "Gyda llaw, fi yw'r Maer!" Dim ond yn Nhalacharn fyddai hynny'n digwydd!"

Huw Edwards (darlledwr) - Mynwent Llanddewi Aber-arth

Ffynhonnell y llun, Huw Edwards

"Mynwent Llanddewi Aber-arth, safle hynafol ger un o bentrefi hynaf Cymru, golygfa heb ei hail dros Fae Ceredigion, a dyna lle mae cynifer o'm teulu wedi eu claddu, gan gynnwys Dad."

Alex Jones (cyflwynydd y 'One Show') - traeth Cefn Sidan

Ffynhonnell y llun, Discover Carmarthenshire

"Dyma lle nes i dreulio lot o benwythnosau pan yn ifanc. Roedd mamgu a tadcu yn byw ger llaw. Roedden ni'n nofio bryd hynny achos ro'dd y dŵr o hyd yn dwym ac hefyd yn cael barbeciw ar y gwair. Traeth bendigedig - mae'n filltiroedd o hyd. Ni'n dal yn mynd yna nawr fel oedolion - fi a Charlie, fy nghariad i."

Gethin Jones (cyflwynydd teledu) - cwrs golff y Twenty Ten

Ffynhonnell y llun, Sportingwales - Ian Cook

"Fi'n dwli whare golff a fy hoff gwrs yw'r un yn Celtic Manor lle cafodd y Cwpan Ryder ei gynnal yn 2010. Roedd yn ddigwyddiad bythgofiadwy ac mae bob amser yn braf mynd am rownd o golff 'na gyda ffrindiau ac ail-fyw'r atgofion. Fi hefyd yn joio mynd 'na i nofio gyda fy nau nai sy' wastad yn mynnu cael cacen siocled i fwyta wedyn, wrth gwrs!"

Beti George (darlledwraig) - 'stafell wely yn Station Road

"Wel dw i wedi bod i bob un o'r saith cyfandir ar wahan i'r Antarctica a gweld rhyfeddodau. Ond peth rhyfeddach fyth yw cof - a llygad y cof yn enwedig. Mae hwnnw yn aml yn paentio darlun o draeth unig, y môr a'r wybren yn las, las a'r haul yn gwenu'n danbaid. Na, nid Llangrannog ond Kokkari ar ynys Samos yng ngwlad Groeg.

"Ond am ryw reswm mae'r llygad bob tro yn dychwelyd i'r 'stafell wely yn Station Road, Nantymoel yn nhŷ fy Wncwl Dai ac Anti Nancy di-blant. Y gwely plu a'r dillad gwyn, gwyn wedi eu startsio. A thrwy'r ffenest, y bwcedi ar wifren yn yr awyr yn cario gwastraff glo'r pwll odditano a'i arllwys ar ochr y mynydd.

"A finne'n cael fy sbwylo'n rhacs gan y stryd gyfan bron gan fod cynifer o berthnase ar ochr fy mam a nhad yn byw yno. Hwythe yn cofleidio'r groten fach o'r wlad oedd yn dal i siarad Cymraeg!

"Digon o reswm i'w alw yn fy Hoff Le yn y cof!"

Lisa Jên (prif leisydd y band gwerin 9bach gipiodd y wobr am yr albwm gorau yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 eleni) - Cwm Idwal

Ffynhonnell y llun, Lisa Jên

"Cwm Idwal ydy lle gora fi'n y byd, mae o fel bod mewn byd gwahanol ac yn yr oes o'r blaen. Dw i'n mynd â'r plant yna'n aml ac mae nhw'n caru'r cae chwara anhygoel yma. Yn ddiweddar dw i wedi derbyn darnau o hen gerrig a ffosils o'r cwm sydd yn 400 miliwn o flynyddoedd oed - ma' hynny wedi chwalu 'mhen i. Mi oedd y darn carrag arbennig yma ar gadwyn gyferbyn â nghalon i noson y Gwobrau Gwerin."

Tudur Owen (digrifwr a chyflwynydd radio) - 'Y Ddinas'

Ffynhonnell y llun, Tudur Owen

"Mae fy Hoff Le yn dipyn o gyfrinach. Nid llawer o bobol sy'n gwbod am y lle ac yn sicr does dim llawer o bobol wedi bod yna.

"Mi gefais fy magu ar fferm o'r enw Trefri sydd wedi ei leoli mewn rhan arbennig, diarffordd a hudolus o Ynys Môn. Mae craig fawr yn ymestyn allan i'r môr oddi ar dir Trefri o'r enw 'Dinas Fawr'. Er ei fod llai 'na dwy filltir o Ynys Llanddwyn a'i ymwelwyr lu, pur anaml welwch neb arall ar 'Y Ddinas'. Dyna pam mae o'n lle delfrydol i fynd am dipyn o lonyddwch ac i ddengyd am sbel.

"Pan oeddwn i'n fachgen bach mi fyddwn i'n pysgota oddi ar 'Y Ddinas' ac yna yn dringo i'w phen er mwyn eistedd am oriau gyda'r adar môr ac ambell i forlo yn gwmni.

"Gan fod fferm Trefri ar dir stâd teulu y 'Meyricks' yn Bodorgan, does dim llwybr cyhoeddus i gyrraedd 'Y Ddinas', a'r unig ffordd i'r cyhoedd fynd yno ydy gyda chwch. Y gobaith ydy y bydd y llwybr arfordirol yn cael ei estyn i fynd heibio 'Dinas Fawr' rhyw ddiwrnod. Ond tan hynny mi ga'i lonydd i eistedd ac i edrych allan i'r môr."

Ewch at galeri Hoff Le er mwyn gweld rhagor o hoff lefydd rhai o bobl adnabyddus Cymru.