Llafur yn colli seddi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Roedd hwn yn un o ganlyniadau annisgwyl yr etholiad, wrth i'r Ceidwadwyr ddal eu gafael ar Ogledd Caerdydd, er ymgyrch frwd gan Lafur i gipio'r sedd.
Fe drydarodd gohebydd seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr fod hwn "yn ganlyniad trychinebus i Lafur".
A'r un oedd yr hanes ledled y DU wrth i'r cyfri barhau. Er i Lafur sicrhau mwyafrif seddi Cymru - 25 i gyd - fe gollwyd degau o seddi yn Lloegr a'r Alban.
Fe wnaeth Llafur hefyd golli Dyffryn Clwyd a Gŵyr i'r Ceidwadwyr.
Ymysg aelodau blaenllaw y blaid gafodd eu trechu, mae arweinydd y blaid yn Yr Alban, Jim Murphy, a llefarydd y blaid ar y trysorlys, Ed Balls.
Wedi iddo lwyddo i gadw ei sedd yng Ngogledd Doncaster, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband: "Mae hon wedi bod yn noson siomedig ac anodd iawn i'r Blaid Lafur.
"Nid ydym wedi gwneud y cynnydd yr oeddem wedi anelu amdano yng Nghymru a Lloegr, ac yn yr Alban rydym wedi gweld ton o genedlaetholdeb yn llethu ein plaid."