Hwyl ar y Gwyliau?

  • Cyhoeddwyd
Gwerinos
Disgrifiad o’r llun,

Gwerinos yn perfformio yn Sesiwn Fawr ar ddechrau'r 1990au (Ywain Myfyr ar y dde)

Bydd nifer o wyliau cerddorol yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru eto'r ha yma, ond pam bod rhai yn llwyddo am flynyddoedd ac eraill yn rhedeg allan o stêm ar ôl blwyddyn neu ddwy?

Un sy'n gyfarwydd iawn a llwyfannu gwyliau llwyddiannus ydi Ywain Myfyr, un o sefydlwyr y Sesiwn Fawr yn Nolgellau:

Beth yw oes gŵyl?

Dwi'n cofio trafod efo Gwyddel dro yn ôl a ddywedai mai 10 mlynedd ar y mwyaf ydy oes gŵyl, sef tair blynedd i'w sefydlu, pedair blynedd yn ei hanterth a thair blynedd i ddirywio.

Dwi'n meddwl fod y cyfaill yn eithaf agos ati, ac yn sicr mae amserlen debyg i hyn wedi bod yn wir am lawer o'r gwyliau a fodolai yng Nghymru tan yn ddiweddar.

Y Cnapan, Gŵyl y Gwyniad, Gŵyl Pen Draw'r Byd, Gŵyl y Car Gwyllt i enwi dim ond pedair.

O'r myrdd o wyliau a fodolai yng Nghymru ar ddechrau'r ganrif, mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn enghraifft brin o ŵyl sy'n parhau yn flynyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Y Super Furry Animals yn perfformio yn y Sesiwn Fawr, 2005

Beth ddigwyddodd tybed? Credaf fod sawl ffactor yn gyfrifol am hyn.

Un ffactor na ellir ei diystyru yw bod rheolau iechyd a diogelwch wedi ychwanegu costau anferthol i wyliau. Bellach mae'n rhaid i ddigwyddiad gael trwydded a dilyn y 'llyfr glas', a gwae chi os nad yw hyn yn digwydd.

Os ydy'r digwyddiad yn mynd i ddenu cynulleidfa fawr rhaid cael stiwardiaid cofrestredig, gwasanaeth yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, ffensys diogelwch ac yn y blaen… mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen.

Disgrifiad o’r llun,

Sesiwn Fawr Dolgellau, wedi iddo symud o Sgwar Eldon i'r Marian

Diwedd y gân yw'r geiniog

Wrth reswm mae costau sylweddol yn mynd law yn llaw efo gwasanaethau fel hyn. I roi rhyw syniad i chi o'r costau, yn ei hanterth un flwyddyn fe wynebodd Sesiwn Fawr Dolgellau gostau o £15,000 i'r Heddlu (na fu ar y safle) a bron i £15,000 arall i gwmni stiwardio - goffwylledd!

Does dim dwywaith bod angen rhyw fath o reolau iechyd a diogelwch ond beth gafwyd oedd rheolau one size fits all nad oedd yn addas o gwbl i wyliau cymharol fechan Cymru.

Fel aelod o bwyllgor trefnu Sesiwn Fawr Dolgellau ers y dechrau rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysigrwydd i ŵyl sefydlu patrwm unigryw iddi ei hun.

Yn hyn o beth, mae'r Sesiwn wedi ceisio cynnig amrywiaeth mawr o adloniant heb golli golwg ar ei gwreiddiau gwerin/byd. Ble arall gallech weld y Bisserov Sisters o Fwlgaria yn chwarae ar yn un llwyfan â Goldie Lookin' Chain?

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion yn tyfu yn ei phoblogrwydd

Rhy debyg i'w gilydd?

Gallwch ddadlau fod nifer o'r gwyliau yn debyg iawn i'w gilydd. Byddai'r rhaglen yn ddigon tebyg, yn aml yr un bandiau yn ymddangos yn yr un drefn.

Mae'n bosib bod cynulleidfaoedd yn diflasu ar hyn yn enwedig gan fod llawer o grwpiau Cymru yn cael cymaint o sylw cyfryngol hefyd.

Mae'n bosib bod methu dod o hyd i'r ffactor yna i wneud yr ŵyl yn unigryw wedi cyfrannu at y tranc. Mae'r mwyafrif llethol o wyliau yn gwybod yn fras beth fydd eu sefyllfa ariannol cyn cynnal y digwyddiad o ganlyniad i werthiant tocynnau ymlaen llaw.

Wrth reswm, bydd mwy o werthiant yn ystod y digwyddiad, ond at ei gilydd gwerthu tocynnau cyn y digwyddiad sy'n rhoi'r sicrwydd ariannol iddyn nhw.

Gwyliau newydd

Peth digon prin ydy gwerthiant tocynnau ymlaen llaw yn y Gymru Gymraeg sy'n gwneud cynnal unrhyw ddigwyddiad yn dipyn o fenter. Mae'n debyg mai gwybod ei bod yn bur annhebygol y bydd y digwyddiad yn gwerthu'r holl docynnau sydd wrth wraidd hyn.

Gallech ddadlau mai dim ond ffyliaid fyddai'n trefnu digwyddiadau gan obeithio y bydd cynulleidfa ar y diwrnod, ond yn anffodus dyma'r sefyllfa. Ond, diolch i'r drefn mae yna rai ffyliaid sy'n barod i fentro.

Lle'r oedd Gŵyl Car Gwyllt a'r Cnapan, heddiw mae gennyn ni Ŵyl Gwydir, Crug Mawr a Thafwyl. Mae'n bur debygol y daw gwyliau eraill i gymryd eu lle wedi i'r trefnwyr flino neu'r gynulleidfa symud ymlaen i rywle arall.

Disgrifiad o’r llun,

Tafwyl: Gŵyl Gymaeg sy'n cael ei chynnal o fewn muriau Castell Caerdydd

Dyna sy'n digwydd fel arfer. Y llynedd dathlwyd yr 20fed Sesiwn Fawr yn Nolgellau ac wrth edrych yn ôl dros yr ugain Sesiwn bu llawer o newidiadau, llwyddiannau a methiannau, ond o'r dechrau un, bu'n ymdrech gennym fel trefnwyr i newid pethau'n gyson, peidio bodloni efo un fformiwla er efallai ei fod yn gweithio.

Mae angen i bob gŵyl lwyddiannus newid, esblygu a darganfod pethau, rhai er gwell a rhai er gwaeth. Ai dyma'r unig ffordd o sicrhau llwyddiant a pharhad?

Ydych chi'n cytuno efo dadansoddiad Ywain Myfyr?

Cysylltwch gyda ni ar e-bost cymrufyw@bbc.co.uk a @BBCCymruFyw