Cameron i ystyried ei gabinet wedi'r etholiad
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i David Cameron barhau gyda'r gwaith o enwi aelodau o'i gabinet newydd yn dilyn buddugoliaeth y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol.
Ddydd Gwener fe wnaeth o gyhoeddi bod George Osborne wedi ei ailbenodi yn Ganghellor, tra bod Theresa May yn aros fel Ysgrifennydd Cartref.
Philip Hammond sy'n parhau fel Ysgrifennydd Tramor tra bod Michael Fallon yn cadw ei swydd fel yr Ysgrifennydd Amddiffyn.
Bydd disgwyl i Mr Cameron gyhoeddi pwy fydd Ysgrifennydd Cymru yn ddiweddarach.
Yn y cabinet blaenorol AS Preseli Penfro, Stephen Crabb oedd yn y swydd, gyda Alun Cairns, AS Bro Morgannwg yn ddirprwy iddo.
Mae gan y Ceidwadwyr 11 o aelodau seneddol yng Nghymru, cynnydd o dri o'i gymharu a'r nifer gafodd eu hethol yn 2010.