Cyflwyno newid sy'n 'ail-lunio' asesiadau gofal iechyd
- Cyhoeddwyd
Bydd newidiadau i'r ffordd y mae anghenion pobl sydd angen gofal iechyd yn cael eu hasesu yn cael eu cyhoeddi ddydd Llun.
Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn dweud mai bwriad y newidiadau yw symleiddio'r dulliau asesu sydd yn "aml yn anghyson".
Dywedodd bod y drefn newydd yn "rhoi rheolaeth llawer cryfach i bobl ar y gofal a'r cymorth y mae eu hangen ar bobl i fyw eu bywydau".
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y newidiadau yn rhan o "ddiwygiadau mwyaf pellgyrhaeddol" yn y maes ers 60 mlynedd.
'Annibyniaeth'
Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y newidiadau yn symleiddio'r rheolau yn ymwneud â'r asesiadau, "fel bod pobl yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn, mewn ffordd sy'n briodol i'w hamgylchiadau a'u hanghenion".
Y bwriad yw creu un fframwaith i asesu anghenion oedolion a phlant, a chael gwared ar benderfyniadau 'ymyl y dibyn' pan mae pobl yn derbyn cymorth mewn argyfwng yn unig.
Yn lle hynny, y bwriad yw ei gwneud hi'n "ofynnol i awdurdodau lleol ymateb yn fwy priodol ac atal problemau lle bo'n bosibl".
Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y drefn newydd yn canolbwyntio ar "lesiant ac annibyniaeth unigolyn" a rhoi rheolaeth i unigolion ynglŷn â'u gofal.
'Rheolaeth'
Dywedodd Mark Drakeford nad man newidiadau sy'n cael eu cyflwyno, ac y byddai'r drefn newydd yn "yn rhoi rheolaeth llawer cryfach i bobl ar y gofal a'r cymorth y mae eu hangen ar bobl i fyw eu bywydau".
"Yn ei hanfod, mae'n canolbwyntio ar bobl mewn ffordd sy'n rhoi llais cryfach iddyn nhw a mwy o reolaeth ar eu bywydau. Mae'n canolbwyntio ar allu pobl, yn ogystal â'r anghenion sydd ganddyn nhw - mae hyn yn cydnabod bod pobl eisiau cadw rheolaeth ar yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw.
"Mae'r newidiadau arfaethedig yn hanfodol er mwyn galluogi cenedlaethau heddiw a chenedlaethau yn y dyfodol i fyw bywydau mor llawn â phosibl, cynnig y lefel briodol o gymorth i hybu eu llesiant a helpu i'w cynnal yn eu teuluoedd, eu rhwydweithiau a'u cymunedau."
Bydd y newid yn dod i rym yn 2016.